Prydau bwyd i’w rhewi
Meals that are great to make in advance and freeze for another day
Gellir addasu'r rysáit hon i weddu i'r hyn sydd gennych yn yr oergell. Bydd cig eidion wedi’i stiwio yn gweithio cystal â chig eidion wedi'u deisio, torrwch ef eich hun ymlaen llaw.
![beef stew in a pot with dumplings](/sites/default/files/styles/16_9_two_column_sm/public/2022-05/1850786302_slow%20cooker%20beef%20stew%20dumplings_960x640.jpg.webp?itok=1Z3BeBke)
Wedi'i weini'n aml â grefi, y rysáit draddodiadol Iseldiraidd hon yw ein ffefryn mawr erbyn hyn o ran gwneud swper gan ddefnyddio un sosban yn unig.
![Dysgl o Stamppot Iseldiraidd cynnes gyda selsig mwg wedi’u torri ar ben y tatws](/sites/default/files/styles/16_9_two_column_sm/public/2022-05/dutch_stamppot_493441015.jpg.webp?itok=ecyQvsnQ)
Rysáit blasus a hawdd sy'n berffaith fel cwrs cyntaf, prif gwrs neu fwyd parti.
![Tarten_winwns_coch_a_chaws_gafr](/sites/default/files/styles/16_9_two_column_sm/public/2022-05/red_onion_and_goats_cheese_tart_213039334.jpg.webp?itok=0u1iDQ7y)
Wrth goginio pryd briwgig fel hwn mae'n gwneud synnwyr dyblu’r cynhwysion a’i rewi ar gyfer ail bryd ar gyfer diwrnod arall.
![Platiaid o tsili con carne gyda garnais gwyrdd](/sites/default/files/styles/16_9_two_column_sm/public/2022-05/chilli_con_carne_1926313238.jpg.webp?itok=uvuZaV0O)
Mae crwst pwff yn trawsnewid llysiau dros ben diflas yn bryd o fwyd newydd sbon!
![Pastai lysiau grystiog wedi’i thorri’n dafelli a’i haenu â chaws a llysiau gwyrdd](/sites/default/files/styles/16_9_two_column_sm/public/2022-05/puff_pastry_vegetable_pie_1747806314.jpg.webp?itok=dtbmUy1w)
Nid yw ryseitiau newydd bob amser yn golygu dechrau o'r dechrau gyda set o gynhwysion newydd. Mae’r cawl blasus hwn yn enghraifft wych o hynny – rhowch gynnig arni.
![Powlen wen o gawl tatws trwchus gyda phersli ar ei ben](/sites/default/files/styles/16_9_two_column_sm/public/2022-05/potato-peel-soup-327567164.jpg.webp?itok=okKaN7T9)
Lluniwyd y rysáit cawl clasurol gan Chefs @ School i gael disgyblion i feddwl am fwyd a sut i'w arbed rhag mynd i’r bin. A fyddech chi'n rhoi cynnig arni gyda'ch rhai bach?
![Powlen hufennog lliw gwyrdd golau yn llawn cawl pys a mintys gyda mintys ffres ar ei phen](/sites/default/files/styles/16_9_two_column_sm/public/2022-05/pea_mint_soup_257235829.jpg.webp?itok=_Oyd_dOT)
Gellir gwneud y rysáit flasus hon gan ddefnyddio unrhyw fath o wreiddlysiau stwnsh sydd dros ben, ac os nad oes gennych unrhyw gennin syfi, ceisiwch ddefnyddio cymysgedd o winwns a chennin wedi'u torri'n fân.
![Crimpiau tatws euraidd crwn, crimp wedi’u gweini ar blât](/sites/default/files/styles/16_9_two_column_sm/public/2022-06/iStock-Muffin-Tin-Potato-Croquettes.jpg.webp?itok=iv91mirq)
Arbedwch y llysiau hynny o waelod yr oergell a rhoi bywyd newydd iddynt yn y cyri dyfeisgar hwn sydd mor ysgafn ag y mae'n iach. Rydym ni wedi defnyddio past cyri Madras (i roi cic ychwanegol) - gallwch chi ddewis eich ffefryn. Rhowch gyffyrddiad dilys iddo â reis basmati hefyd.
![Cyri llyseiol mewn dysgl](/sites/default/files/styles/16_9_two_column_sm/public/2022-08/Veg-curry-sh288115922.jpg.webp?itok=F7tZ11mN)
Gellir gosod y pitsas bach hyn a'u rhewi o flaen llaw, felly'r cyfan sydd angen i chi ei wneud yw eu tynnu allan o'r rhewgell a'u coginio ar glawr pobi wedi'u rhewi. Gallech dorri cylchoedd o sylfaen pitsa parod 30cm ar gyfer pitsa mwy dilys. Gallech roi unrhyw fara sydd dros ben mewn bag a'i roi yn y rhewgell i'w ddefnyddio'n ddiweddarach ar gyfer briwsion bara.
![Paratoi pizza bach gyda chaws, saws tomatos, ham ac olifau ar ei ben](/sites/default/files/styles/16_9_two_column_sm/public/2022-06/mini-party-pizzas-1398860066_adobe_express_adobe_express.png.webp?itok=ryIq4uJZ)