Cawl pys a mintys
Cawl pys a mintys
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Mesurwch 750ml o ddŵr berwedig i mewn i jwg mesur a thorri’r ciwb stoc i mewn a’i droi gyda llwy bren tan ei fod wedi toddi.
Golchwch y mintys ffres a’i roi mewn cwpan ac yna torri’r mintys gyda siswrn yn y cwpan a’i roi i un ochr ar gyfer yn nes ymlaen.
Cynheswch yr olew hadau rêp yn y badell dros wres ysgafn ac ychwanegu’r winwnsyn a’r seleri cyn ei goginio gyda’r caead ymlaen a’i droi weithiau i atal y cynhwysion rhag glynu at waelod y sosban.
Rhowch y pys yn y sosban, eu troi i gymysgu gyda’r winwns a’r seleri ac ychwanegu’r stoc.
Coginiwch tan ei fod yn berwi ac yna leihau’r gwres, ei droi a’i fudferwi am 10 munud.
Tynnwch oddi ar y gwres ac ychwanegu’r mintys.
Unwaith y bydd y cawl wedi oeri ychydig, cymysgwch â chymysgydd tan ei fod yn llyfn.
Ychwanegwch bupur du a crème fraîche/iogwrt i ychwanegu blas os ydych yn ei ddefnyddio.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.