Skip page header and navigation

Salad cwinoa gydag afal a grawnwin

Salad cwinoa gydag afal a grawnwin

Mae saladau grawn yn eich llenwi ac yn faethlon, ac yn gweithio'n dda iawn gyda ffrwythau ffres, sy'n ychwanegu lliw, gwead a blas. Mae pob math o ffrwythau ffres yn gweithio'n dda mewn salad grawn - rhowch gynnig ar amrywiad sitrws gyda segmentau oren a grawnffrwyth.

Cyngor ar alergeddau: Yn dibynnu ar y grawn a ddefnyddir, gall y pryd hwn gynnwys glwten.

Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 20-30 munud
Powlen fawr o gwinoa wedi’i gyfuno â thafelli o afal suddlon

Cynhwysion

200g/7 owns cwinoa heb ei goginio
Gellir defnyddio grawn eraill - rhowch gynnig ar gwscws neu reis brown.
2 afal
Dewiswch afalau gyda blas siarp a ffres a chrwyn pert gwyrdd neu goch.
100g/3½ owns o rawnwin heb hadau
Sudd hanner lemon
Bydd eich ffrwythau'n para tair gwaith yn hirach os cânt eu storio yn yr oergell!
2 lwy fwrdd o olew olewydd
Blas ychwanegol: Mae diferyn o driagl pomgranad yn fendigedig ar y salad hwn. Efallai yr hoffai llysieuwyr ychwanegu ychydig o gaws feta wedi’i friwsioni.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Coginiwch y cwinoa yn unol â chyfarwyddiadau’r pecyn, ei ddraenio a’i oeri.

  2. Creiddiwch yr afalau, eu sleisio’n fân a gwasgaru sudd lemwn arnynt cyn torri’r grawnwin yn haneri.

  3. Taflwch yr holl gynhwysion gyda’i gilydd a’u gweini’n oer.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos neu ddysgl wedi'i gorchuddio
Amser
Oergell am 24 awr
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Ddim yn berthnasol

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.