Skip page header and navigation

Ein stori

Ein stori

Rysáit Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff ar gyfer gweithredu ar yr hinsawdd: ymchwil, arbenigedd a hoffter am fwyd i’ch helpu i arbed bwyd o’r bin.

Teulu Du: mam, merch a dau fab, yn coginio pryd o fwyd gyda’i gilydd yn y gegin, yn chwerthin ac yn gwenu

Pam rydym ni yma

Cyflwynir Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff ichi gan yr elusen gweithredu ar yr hinsawdd ryngwladol, WRAP. Rydym wedi bod yn rhannu’r neges am wastraff bwyd mewn cartrefi a sut i’w frwydro ers 2007. Rydym wedi gwneud cynnydd gwych gyda’n gilydd ar leihau faint o fwyd da sy’n mynd i’r bin yn y Deyrnas Unedig. Ond, mae mwy y mae angen inni ei wneud o hyd.

Gyda phrinder bwyd yn cael ei drafod yn gynyddol, costau byw yn codi, a nifer gynyddol o bobl heb ddigon o fwyd i’w fwyta, mae’n bwysig iawn inni wneud popeth y gallwn i fanteisio i’r eithaf ar fwyd. Mae’n lleihau’r pwysau ar y system bwyd gyfan, i ni oll.

Tîm ydym ni sy’n chwilio’n ddiflino am syniadau newydd ar gyfer helpu i daclo heriau bywyd a manteisio i’r eithaf ar fwyd. (Rydym wrth ein boddau gyda tip neu hac newydd!) Mae’r wybodaeth a gyflwynwn ichi wedi’i roi ar brawf gan ymchwil a gan ein harbenigwyr bwyd, i wneud yn siŵr ei fod o gymaint o help â phosibl i chi (ac i’n planed).

4.5 miliwn

tunnell o fwyd sy’n dal yn dda i’w fwyta sy’n cael ei daflu bob blwyddyn yn y DU.

60%

o wastraff bwyd yn dod o’n cartrefi yn y Deyrnas Unedig

Gweithio gyda’n gilydd i arbed bwyd

Rydym yn gweithio’n agos gyda chwmnïau sy’n cynhyrchu ein bwyd a’r siopau ac archfarchnadoedd sy’n gwerthu ein bwyd ynghylch bod yn ddoethach gyda’r modd y caiff bwyd ei becynnu a’i werthu.

Rydym hefyd yn helpu i symleiddio sut caiff bwyd ei labelu, gan ddefnyddio’r cyfle hwn i ychwanegu nodiadau atgoffa ar becynnau bwydydd fel y lle gorau i storio gwahanol fwydydd er mwyn iddynt gadw’n fwy ffres yn hirach. Ydych chi wedi gweld cyngor Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff ar becynnau yn Aldi, Lidl a Tesco?

Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu technoleg a thechnegau arbed bwyd, i gadw cymaint o fwyd â phosibl ar blatiau ac oddi wrth y bin.

Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff o amgylch y byd

Does dim byd gwell na theimlo wedi’n cysylltu, a bod ein gweithredoedd yn gwneud gwahaniaeth.

Wel, drwy gymryd camau i arbed bwyd o’r bin gartref ac yn y Deyrnas Unedig, rydych yn rhan o gymuned fyd-eang o bobl sydd hefyd yn brwydro gwastraff bwyd. Dyma ambell un o’r lleoedd y mae Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff yn eu cyrraedd.

Awstralia, Canada, Gweriniaeth Tsiec, Hwngari, Indonesia, Mauritius, Mecsico, Seland Newydd, Slofacia, De Affrica, yr UDA…

Mwy o ffyrdd i frwydro newid hinsawdd

Mae Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff yn gysylltiedig â gweithredu ar yr hinsawdd mewn meysydd pwysig eraill hefyd, yn cynnwys ailgylchu, plastigion a dillad. Tra byddwch yn rhoi cynnig ar arferion arbed bwyd newydd, beth am fwrw golwg ar feysydd eraill ble gallwch leihau eich effaith ar y blaned hefyd? (Ynghyd â gwneud eich bywyd yn haws ar yr un pryd!)

Ewch i’r gwefannau canlynol i ddysgu mwy.

Byddwch yn rhan o’n stori arbed bwyd

Gadewch inni fod yn realistig: weithiau rydym mor brysur nes bod meddwl am sut i arbed bwyd gartref yn disgyn i waelod ein rhestr blaenoriaethau. Yn hytrach na cheisio gweddnewid eich arferion bwyd dros nos, dewch inni weithredu gyda’n gilydd fesul tamaid.

Ffermwr yn dal bresych a phannas dan wenu

Bydd mabwysiadu ambell i arfer bwyd syml yn eich arferion wythnosol arferol yn tynnu llawer o straen o’ch arferion bwyd, gan arbed amser ac arian i chi – a hynny wrth siopa a phan fyddwch gartref. Bydd hefyd yn sicrhau bod eich bwyd yn cael ei fwyta, nid ei daflu!

Mam a phlentyn yn coginio gyda’i gilydd, y fam yn rhoi dysgl yn y ffwrn

Atebion i’r cwestiynau a dderbyniwn yn aml am wastraff bwyd, a ffyrdd o gysylltu â thîm Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff.

Dau ddyn gwyn yn torri tsilis gyda’i gilydd yn y gegin: un yn hŷn a’i wallt wedi britho, un yn iau, a barf ganddo.