Wythnos Taclo Gwastraff Bwyd
Ym mis Mawrth bob blwyddyn, rydyn ni’n hoelio sylw’r byd ar broblem bwysig yn nhermau newid hinsawdd, er ei bod yn aml yn un anweledig: gwastraff bwyd.

Wythnos Taclo Gwastraff Bwyd 2023
Dychwelodd ymgyrch arbed bwyd blynyddol mwyaf y Deyrnas Unedig!
Cynhaliwyd Wythnos Taclo Gwastraff Bwyd 2023 rhwng 6 a 12 Mawrth gyda’r thema: Llwyddo. Nid Lluchio. Fe wnaethom eich helpu i ddarganfod sut gallwch arbed amser ac arian drwy fanteisio i’r eithaf ar y bwyd a brynwch drwy rannu tips wedi’u teilwra i’ch atebion i’n cwis.
Gyda ’chydig o gynllunio yma, a joch o storio doeth acw; fe wnaeth llawer ohonoch fwynhau’r llwyddiannau bach mewn bywyd – fel sortio cinio fory’r noson gynt, neu ddadmer y dogn sbâr hwnnw o sbageti bolognaise i gael swper hawdd a sydyn.
Uchafbwyntiau Wythnos Taclo Gwastraff Bwyd 2022
Cefnogwyd yr ymgyrch gan 80 o sefydliadau, mewn 12 gwlad, ac fe glywodd mwy nag 8 miliwn o bobl am y broblem gwastraff bwyd yn ystod yr wythnos honno. Fe wnaeth bron i 55% o’r bobl hynny weithredu i leihau faint o fwyd maen nhw’n ei daflu i’r bin gartref o ganlyniad.
Ymgyrchoedd eraill y byddwch wrth eich boddau gyda nhw
Cynhelir Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff gan y sefydliad gweithredu ar yr hinsawdd anllywodraethol rhyngwladol, WRAP. Mae WRAP hefyd yn darparu gwybodaeth, cymorth ac adnoddau i’n helpu ni oll ailgylchu mwy o bethau, yn fwy aml drwy ei wefan Cymru yn ailgylchu ac Wythnos Ailgylchu, a gynhelir ym mis Medi.
Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud
Atebion i’r cwestiynau a dderbyniwn yn aml am wastraff bwyd, a ffyrdd o gysylltu â thîm Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff.

Rysáit Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff ar gyfer gweithredu ar yr hinsawdd: ymchwil, arbenigedd a hoffter am fwyd i'ch helpu i arbed bwyd o'r bin.

Gadewch inni fod yn realistig: weithiau rydym mor brysur nes bod meddwl am sut i arbed bwyd gartref yn disgyn i waelod ein rhestr blaenoriaethau. Yn hytrach na cheisio gweddnewid eich arferion bwyd dros nos, dewch inni weithredu gyda’n gilydd fesul tamaid.
