Cawl gyda chroen tatws
Cawl gyda chroen tatws
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Cynheswch y menyn neu’r olew mewn sosban ganolig dros wres canolig-isel ac ychwanegu’r winwns, y ddeilen llawryf a phinsiad da o halen a’u ffrio’n ysgafn, tan fod y winwns yn feddal ond heb gymryd llawer o liw, tua 10 munud.
Ychwanegwch y croen tatws a rhoi tro da iawn i bopeth am funud.
Arllwyswch y llaeth a’r stoc, ac ychwanegu blas gyda halen a phupur a’i goginio tan ei fod yn berwi cyn lleihau’r gwres a’i fudferwi’n ysgafn tan fod y croen yn dyner iawn - tua 10 munud arall.
Tynnwch oddi ar y gwres ac oeri’r gymysgedd ychydig, yna rhoi’r gymysgedd mewn prosesydd bwyd, cymysgydd neu ddefnyddio cymysgydd ffon tan ei fod yn llyfn iawn.
Rhowch y cawl yn ôl yn y badell a’i ail gynhesu’n ysgafn ac yna ychwanegu digon o flas gyda halen a phupur a chymysgu’r persli wedi’i dorri i mewn, os ydych chi’n ei ddefnyddio.
Gweinwch mewn dysglau cynnes, gyda dail saets wedi’u ffrio a darnau o gig moch crimp ar ben y cawl os ydych chi’n dymuno cyn ychwanegu pupur.
Cofiwch rewi unrhyw ddognau nad ydych chi’n eu bwyta’r tro hwn i’w harbed rhag mynd i’r bin. Dyma ffordd wych o arbed amser ar gyfer pryd o fwyd syml ar gyfer diwrnod arall pan fyddwch efallai’n brysur.
Dylech ddadrewi dognau wedi’u rhewi yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr, neu gallech eu dadrewi yn y microdon ar ‘defrost’ yn syth cyn eu defnyddio.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.