Pryd o datws wedi’u stwnshio â llysiau syml
Pryd o datws wedi’u stwnshio â llysiau syml
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Sleisiwch eich winwns a’ch llysiau gwyrdd yn fras a thorri’r tatws yn ddarnau bach, ac ychwanegu’r cyfan i sosban fawr.
Ychwanegwch ddŵr fel ei fod yn gorchuddio’r llysiau a’u berwi.
Ar ôl berwi, trowch y gwres i lawr a’u mudferwi am 20 munud.
Draeniwch y dŵr a stwnsiwch yr holl gynhwysion gyda’i gilydd.
Ar y pwynt hwn gallwch chi ffrio’ch cig moch neu selsig yn y sosban gyda’r llysiau neu eu coginio ar wahân a’u gweini ar yr ochr.
Cymysgwch eich menyn, crème fraîche neu olew olewydd.
Ychwanegwch halen, pupur a chaws wedi’i gratio i roi blas.
Cofiwch rewi unrhyw ddognau nad ydych chi’n eu bwyta y tro hwn i’w harbed rhag mynd i’r bin. Dyma ffordd wych o arbed amser ar gyfer pryd o fwyd syml ar gyfer diwrnod arall pan fyddwch efallai’n brysur.
Dylech ddadrewi dognau wedi’u rhewi yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr, neu gallech eu dadrewi yn y microdon ar ‘defrost’ yn syth cyn eu defnyddio.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.