Pastai llysiau â chrwst pwff
Pastai llysiau â chrwst pwff
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Cynheswch y ffwrn i 190°C.
Torrwch y llysiau’n ddarnau bach a’u rhoi mewn dysgl fawr. (Os ydych am ychwanegu llysiau ychwanegol at eich bwyd dros ben, mae’n well eu coginio yn gyntaf fel nad yw eich pastai yn cynnwys rhai llysiau sy’n fwy cadarn nag eraill. Mae ychwanegu tun o ffa coch neu ffacbys yn ffordd dda arall o wneud eich bwyd dros ben fynd ymhellach, ac yn gwella proffil maethol y ddysgl).
Trowch y saws i mewn i’r llysiau.
Rhowch y toes ar fwrdd â blawd arno. A throi’r ddysgl y byddwch chi’n ei defnyddio ar gyfer y bastai wyneb i waered a’i wasgu’n ysgafn ar y does i wneud argraff ysgafn. Defnyddiwch gyllell finiog i dorri’r siâp allan o’r does. Efallai yr hoffech chi dorri rhai siapiau addurniadol allan o’r darnau o does sydd dros ben ac addurno’r caead y does, neu rolio’r darnau’n stribedi, eu brwsio ag ychydig o laeth neu wy wedi’i guro, a rhoi ychydig o gaws wedi’i gratio a phaprica arnynt, a’u pobi ar glawr pobi wedi’i leinio â phapur pobi ar 190°C am 15 munud i wneud gwelltyn caws cyflym.
Trosglwyddwch y llysiau sawrus i’ch dysgl pastai a rhoi caead y toes ar ei ben yn ofalus ac yna defnyddio blaen cyllell finiog i wneud ychydig o dyllau aer fel nad yw stêm yn cronni o dan y toes a gwneud y gwaelod yn soeglyd!
Pobwch am tua 30 munud – tan fod y crwst yn euraidd ac yn grimp.
Cofiwch rewi unrhyw ddognau nad ydych chi’n eu bwyta y tro hwn i’w harbed rhag mynd i’r bin. Dyma ffordd wych o arbed amser ar gyfer pryd o fwyd syml ar gyfer diwrnod arall pan fyddwch efallai’n brysur.
Dylech ddadrewi dognau wedi’u rhewi yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr, neu gallech eu dadrewi yn y microdon ar ‘defrost’ yn syth cyn eu defnyddio.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.