Skip page header and navigation

Nadolig

Exclude from site search filters
0

Mae plant yn mynd gwirioni ar y byrgyrs hyn, gallwch eu cadw yn y rhewgell ar gyfer swper munud olaf i blant – gellir eu coginio yn syth o’r rhewgell. Gallech hefyd eu gweini fel peli cig bach gyda saws tomato a sbageti.

Dau fyrgyr twrci wedi'u gweini gyda corn melys a ffa

Mae'r cyri twrci sbeislyd hwn yn defnyddio twrci a llysiau dros ben. Gellir ychwanegu unrhyw lysiau gwyrdd fel brocoli, ffa Ffrengig a phys ar y diwedd gyda'r twrci.

Powlen o gyri twrci gyda reis ar fwrdd wrth ymyl powlen weini fawr

Mae'r Nadolig a bwyd cysur yn mynd law yn llaw, a beth sy'n fwy cysurus na chaws macaroni? Mae'r ryseitiau hyn yn defnyddio cig moch dros ben a sbrowts ar gyfer tro sawrus iawn ar glasur. Credwch ni, fe fyddwch wrth eich bodd gydag ef.

Macaroni Ysgewyll a Bacwn

Ffordd flasus o ddefnyddio'r sbrowts sydd dros ben adeg y Nadolig.

a traybake of brussel sprouts with pancetta pieces and whole chestnuts

Mae'r pryd hwn yn ddelfrydol ar gyfer swper yn ystod yr wythnos gan mai dim ond deng munud y mae'n ei gymryd i'w baratoi ac mae'n defnyddio un ddysgl yn unig ar gyfer coginio. Defnyddiwch eich hoff amrywiaeth o selsig a chyfnewidiwch y pannas am datws i gael canlyniad yr un mor flasus.

A dish of baked sausages and potatoes on a table ready to serve

Mae hwn yn ddewis arall gwych i ginio rhost clasurol, ac mor hawdd: y cyfan sydd angen i chi ei wneud mewn gwirionedd yw torri ychydig o lysiau!

a traybake containing a crispy whole roast chicken surrounded by a variety of roasted bright vegetables

Pryd gwych i wneud y mwyaf o unrhyw datws sbâr sy'n eich cypyrddau. Yn draddodiadol byddai babka tatws yn cael ei fwyta fel pryd ar yr ochr ond byddai'n hawdd ei ddefnyddio fel prif gwrs llysieuol blasus.

Dysgl fach yn cynnwys potyn o babka tatws hufennog blasus

Arbedwch y llysiau hynny o waelod yr oergell a rhoi bywyd newydd iddynt yn y cyri dyfeisgar hwn sydd mor ysgafn ag y mae'n iach. Rydym ni wedi defnyddio past cyri Madras (i roi cic ychwanegol) - gallwch chi ddewis eich ffefryn. Rhowch gyffyrddiad dilys iddo â reis basmati hefyd.

Cyri llyseiol mewn dysgl

Mae'r fersiwn iachach hon o nachos yn ffordd wych o ddefnyddio gwreiddlysiau gyda dipiau Mecsicanaidd a gellir ei weini fel byrbryd neu bryd cyntaf i rannu wrth ddiddanu.

Powlen liwgar o lysiau crimp wedi’u sychu

Tri syniad gwych ar gyfer topins, i ddefnyddio unrhyw datws wedi’u coginio dros ben sydd gennych.

Tatws bach gyda chaws, winwns a darnau bacwn ar eu pennau
Subscribe to Nadolig