Byrgyrs twrci ac india-corn
Byrgyrs twrci ac india-corn
Am flas mwy sbeislyd, ychwanegwch bowdr tsili ychwanegol.
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Cofiwch ddadmer eich cig yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr, neu mewn microdon ar ‘dadmer’ yn union cyn ei ddefnyddio.
Cynheswch y ffwrn i 200°C (400°F) marc 6.
Mewn dysgl, gorchuddiwch y bara â dŵr a’i adael i socian am tua munud, yna ei wasgu’n dda a’i friwsioni i mewn i ddysgl fawr. Neu defnyddiwch friwsion bara ffres.
Ychwanegwch yr india-corn, y twrci, yr wy, y shibwns, y cwmin, y garlleg a’r halen a phupur. Defnyddiwch eich dwylo i wasgu’r cymysgedd at ei gilydd.
Siapiwch y briwgig yn fyrgyrs neu’n beli cig bach tua maint pêl golff.
Cynheswch badell ffrio drom gydag olew blodau’r haul a choginio’r byrgyrs neu’r peli cig mewn sypiau, gan eu troi drosodd yn y badell tan eu bod yn frown euraidd, eu draenio a’u trosglwyddo i’r ffwrn a’u coginio am 5 munud arall neu tan eu bod wedi’u coginio.
I rewi: Rhowch y byrgyrs neu’r peli cig ar glawr pobi fflat a’u rhoi yn y rhewgell tan eu bod wedi rhewi. Paciwch nhw mewn cynhwysydd aerglos, eu labelu a’u rhewi.
I’w defnyddio: Cynheswch badell ffrio drom gydag olew blodau’r haul a choginio’r byrgyrs neu’r peli cig mewn sypiau wedi’u rhewi, gan eu troi yn y badell tan eu bod yn frown euraidd, eu draenio a’u trosglwyddo i ffwrn gynnes 200°C (400°F) marc 6, a’u coginio am 5 – 10 munud arall neu tan eu bod wedi coginio.
I weini: Mewn bynsen neu roliau byrgyr, ynghyd â letys, ciwcymbr a saws tsili melys.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.