Skip page header and navigation

Cacennau pysgod tiwna

Cacennau pysgod tiwna

Mae'r cacennau pysgod blasus hyn yn defnyddio hanfodion o’r pantri fel tiwna tun ac india-corn ar gyfer swper nos Wener sy'n rhad ond yn rhoi boddhad mawr!
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 30-45 munud
Pedwar cacen pysgod tiwna wedi'u weini gyda salad gwyrdd ffres

Cynhwysion

450g o datws (mae tatws stwnsh dros ben yn gweithio hefyd)
2 lwy fwrdd o mayonnaise
2 x dun 185g o diwna, wedi'i ddraenio
Tun 198g o india-corn, wedi'i ddraenio
Bwnsiad bach o gennin syfi
Mae croeso i chi ddefnyddio perlysiau sych neu ffres eraill sydd gennych eisoes – mae perlysiau cymysg sych yn gweithio cystal
2 wy, wedi’u curo
100g o friwsion bara sych (mae defnyddio hen dorth yn gweithio'n wych)
Olew blodau’r haul, ar gyfer ffrio

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Coginiwch y tatws mewn dŵr hallt berw tan eu bod yn frau iawn, yna eu draenio a’u gadael i sychu mewn colandr cyn eu rhoi mewn dysgl i’w stwnsio ac ychwanegu blas. Ychwanegwch y mayonnaise, y tiwna, yr india-corn a’r cennin syfi a’u siapio’n 4 cacen a’u gadael i oeri tan eu bod yn oer ac wedi caledu.

  2. Trochwch bob cacen yn yr wy, gan adael i’r gormodedd ddiferu, yna eu gorchuddio gyda briwsion bara a’u hoeri am 15 munud.

  3. Cynheswch ychydig o’r olew mewn padell a ffriwch y cacennau’n ysgafn am 2-3 munud bob ochr tan eu bod yn euraidd. Efallai y bydd angen i chi wneud hyn mewn sypiau a’u cadw’n mewn ffwrn ar wres isel. Gweinwch gyda mayonnaise a dail salad ychwanegol.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell 3-6 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.