Skip page header and navigation

Eog wedi’i gochi fel cwrs cyntaf Nadolig

Eog wedi’i gochi fel cwrs cyntaf Nadolig

Yn berffaith fel cwrs cyntaf ysgafn cyn cinio Nadolig moethus, mae eog wedi’i gochi ar gael yn hawdd mewn pecynnau bach sy'n golygu y gallwch chi sicrhau nad ydych chi'n prynu mwy nag sydd ei angen arnoch chi.
Gan Gary Maclean
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 10 munud
crispy pieces of bread topped with rich smoked salmon slices, wild rocket and tomato

Cynhwysion

4 tafell o fara surdoes
Mae bara wedi'i rewi yn gweithio'n dda. Gallwch ei ddadmer ar dymheredd ystafell neu ei dostio’n syth o'r rhewgell.
Caws hufen
4 tafell o eog wedi’i gochi
Lemwn
Pupur du
Dail salad i weini
Defnyddiwch yr hyn sydd gennych yn yr oergell. Gellir defnyddio brocoli, asbaragws, pys a phob math o ffa fel dewis arall.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Tostiwch tafell o fara surdoes i bob unigolyn.

  2. Rhowch dogn hael o gaws hufen a thafell o eog wedi’i gochi ar y bara surdoes.

  3. Ychwanegwch flas gyda mymryn o lemwn a phupur du.

  4. Gweinwch gyda dail salad.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Ddim yn berthnasol

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.