Pei pysgod mwg gyda thopin crwst cawslyd
Pei pysgod mwg gyda thopin crwst cawslyd
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Rhowch y pysgod amrwd mewn padell lydan, ac ychwanegu’r winwnsyn wedi’i chwarteru a’r ddeilen llawryf ac arllwys y llaeth drosto a’i ferwi, lleihau’r gwres a’i fudferwi am tua 5 munud, neu tan fod y pysgod newydd goginio.
Tynnwch y pysgodyn gan ddefnyddio tafell bysgod a’i roi mewn dysgl sy’n addas ar gyfer y ffwrn tua 22cm mewn diamedr. Taflwch y winwnsyn a’r ddeilen llawryf o’r ddysgl a’u rhoi mewn bin compost neu stoc. Rhowch y llaeth i un ochr i’w ddefnyddio yn nes ymlaen.
Rŵan dylech ferwi dŵr mewn sosban fach a berwi’r wyau yn galed; gostwng yr wyau yn ofalus i’r dŵr a’u berwi am 8 munud, yna eu draenio a’u dal o dan ddŵr oer; pliciwch yr wyau, eu torri’n dalpiau a’u gosod ar ben y pysgod.
Torrwch y mecryll mwg yn fflochiau a’i ddosbarthu dros yr wyau a’r pysgod wedi’u coginio.
I wneud y saws; toddwch y menyn mewn padell, cymysgu’r blawd a’i goginio am funud dros wres cymedrol ac yna ychwanegu’r llaeth a ddefnyddiwyd i botsio’r pysgod yn raddol, gan eu curo drwy’r amser, a’u mudferwi am 1-2 funud tan fod gennych saws llyfn, ychydig yn drwchus.
Tynnwch y saws oddi ar y gwres, ychwanegu’r crème fraîche ac ychwanegu blas gyda halen, pupur du a nytmeg ac yna arllwys y saws dros y pysgod a’r wyau.
Cynheswch y ffwrn i 200°C (400°F) marc 6. Gratiwch y toes wedi’i rewi’n drwchus dros ben y bastai bysgod, gwasgaru caws drostynt a’u coginio am tua 25-30 munud neu tan eu bod yn chwilboeth ac mae’r topin yn grimp ac yn euraidd.
I rewi: Cwblhewch hyd at gam 3 ac yna gorchuddio, labelu a rhewi’r gymysgedd am hyd at 3 mis.
I’w ddefnyddio: Dylid dadmer y gymysgedd dros nos yn yr oergell a chwblhau’r rysáit o gam 4.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.