Skip page header and navigation

Macaroni sbrowts a chig moch

Macaroni sbrowts a chig moch

Mae caws macaroni yn bryd o fwyd gwych ar gyfer defnyddio bwyd dros ben, mae unrhyw beth yn addas! Mae paru llysiau gwyrdd gyda darnau cig moch crimp a llwyth o gawsiau sydd wedi dirywio yn fuddugoliaeth lwyr!
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 40 munud
Macaroni Ysgewyll a Bacwn

Cynhwysion

150g - 200g o sbrowts dros ben
ambell ddarn o gig moch, neu ham Nadolig dros ben, wedi'i dorri'n fras
1 llwy fwrdd o olew olewydd
350g o basta sych e.e. macaroni, penne

Ar gyfer y Saws

30g o fenyn heb halen
500ml o laeth hanner sgim
300 - 400g o gaws dros ben wedi’i gratio neu wedi’i friwsioni (cadwch ychydig ar un ochr ar gyfer y top)
2 llwy de o fwstard

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cynheswch eich ffwrn  i 180c (ffan 160c).

  2. Coginiwch y pasta yn unol â chyfarwyddiadau’r pecyn yna ei ddraenio a’i adael i stemio a’i roi i un ochr.

  3. Os ydych chi’n defnyddio cig moch heb ei goginio (yn hytrach na gamwn) ychwanegwch ychydig o olew i badell ffrio ar wres canolig a’i ffrio tan ei fod yn grimp. Os hoffech chi, gallwch chi goginio’r sbrowts yn grimp yn y badell am funud neu ddau yna ei roi i un ochr tra byddwch yn gwneud y saws caws.

  4. Ychwanegwch y menyn i sosban a’i doddi ar wres canolig cyn ychwanegu’r blawd a’r llaeth a’u curo’n gyflym ac yn barhaus tan fod gennych saws llyfn.

  5. Ychwanegwch y mwstard a’r caws, a throi’r gwres i fyny ychydig tan ei fod yn dechrau tewychu ac yna ei dynnu oddi ar y gwres.

  6. Ychwanegwch y pasta wedi’i goginio at ddysgl fawr sy’n addas ar gyfer y ffwrn, a rhoi’r sbrowts a’r bacwn (neu gamwn) mewn haenau.

  7. Arllwyswch y saws dros y gymysgedd a’i droi’n ysgafn i orchuddio popeth yn dda. Pobwch yn y ffwrn am tua 15 - 20 munud, neu tan fod y saws yn byrlymu a’r top wedi brownio.

  8. Gweinwch ar unwaith.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell 3-6 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.