Skip page header and navigation

Sbrowts gyda pancetta a chnau castan

Sbrowts gyda pancetta a chnau castan

Ffordd flasus o ddefnyddio'r sbrowts sydd dros ben adeg y Nadolig.

Mae'r rysáit hon ar gyfer swp mawr o sbrowts, ond os ydych chi'n gwneud cinio ar gyfer llai o bobl, y cwbl sydd angen i chi wneud yw addasu'r rysáit ychydig.
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 6
Amser Paratoi/Coginio: 45 munud
a traybake of brussel sprouts with pancetta pieces and whole chestnuts

Cynhwysion

500g o sbrowts
1 pecyn o gnau castan sydd wedi’i becynnu dan wactod
Gellir ychwanegu cnau castan dros ben at gawl, salad, neu hyd yn oed stwffin a brynir mewn siop i roi rhywfaint o wead ychwanegol iddo.
200g o gig moch neu lardonau cig moch
Gallwch brynu pancetta neu lardonau mewn pecynnau llai.
1 llwy fwrdd o olew olewydd
Halen a phupur

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Torrwch y sbrowts a’u sleisio’n eu hanner, ar eu hyd drwy’r coesyn.

  2. Berwch y sbrowts am tua 4-5 munud, yna eu draenio a’u rhoi i un ochr.

  3. Mewn dysgl fawr, cymysgwch y pancetta a’r cnau castan gyda’r olew olewydd, yna ychwanegu pinsiad o halen a thro o bupur du.

  4. Ychwanegwch y sbrowts a’u cymysgu tan fod popeth wedi’i orchuddio, yna ei wasgaru ar glawr pobi mawr. Rhostiwch ar 220C/200C ffan am tua 30 munud, neu tan fod y cig moch yn grimp a’r sbrowts yn troi’n euraidd.

  5. A yw’r ffwrn yn orlawn ar Ddydd Nadolig? Os yw lle’n brin, gellir addasu’r rysáit a defnyddio padell ffrio neu badell fawr hefyd. Yn syml, ffriwch y cig moch a’r cnau castan yn yr olew, ychwanegu’r sbrowts wedi’u hanner berwi ac ychwanegu blas, yna eu ffrio ar wres canolig tan eu bod yn grimp ac yn euraidd.n.

  6. Cofiwch rewi unrhyw ddognau nad ydych chi’n eu bwyta y tro hwn i’w harbed rhag mynd i’r bin.

    Dylech ddadrewi dognau wedi’u rhewi yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr, neu gallech eu dadrewi yn y microdon ar ‘defrost’ yn syth cyn eu defnyddio. 

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell 3-6 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.