Skip page header and navigation

Bara fflat gyda chig oen Moroco crimp

Bara fflat gyda chig oen Moroco crimp

Mae cig oen crimp wedi'i goginio gyda sbeisys o’r cwpwrdd yn gyfuniad gwych ac yn ffordd flasus o ddefnyddio unrhyw friwgig cig oen i greu swper cyflym a hawdd.
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 2
Amser Paratoi/Coginio: 10-20 munud
Bara fflat crimp gyda thopin briwgig oen, tomatos wedi’u torri a chaws

Cynhwysion

125g o friwgig cig oen 20% braster
1 ewin garlleg, wedi'i fathru
1 llwy fwrdd o goriander
1 llwy fwrdd o gwmin
½ llwy de o bowdr tsili
1 llwy fwrdd o goriander ffres
2 fara fflat unigol (neu fara pita)
2 llwy fwrdd o hwmws
1 winwnsyn coch bach, wedi'i sleisio
Llond llaw o ddail berwr y gerddi

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cynheswch badell ffrio ac ychwanegu’r briwgig a’i ffrio dros wres cymedrol am tua 5 munud tan ei fod wedi brownio.

  2. Torrwch y briwgig gyda llwy, ychwanegu’r garlleg wedi’i fathru, yna gwasgaru’r coriander, y cwmin a’r powdr tsili drosto a pharhau i ffrio am 8-10 munud arall tan fod y cig oen yn grimp.

  3. Cynheswch 2 fara fflat yn y ffwrn yna taenwch lwyaid o hwmws ar bob un a rhoi’r cig oen, y nionyn coch wedi’i sleisio a berwr y gerddi ar ei ben.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Mae’n well ei fwyta ar unwaith
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Ddim yn berthnasol

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.