Skip page header and navigation

Sgiwerau cyw iâr crimp

Sgiwerau cyw iâr crimp

Mae’r rhain yn ffefryn ymysg plant, ac yn defnyddio gorchudd crimp wedi'i wneud o gaws dros ben a briwsion bara wedi'u gwneud o fara sydd ychydig yn hen.

Gweinwch gyda lletemau tatws neu datws pob, ffyn moron a chiwcymbr.
Gan Caroline Marson
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 25 munud
Nifer o ddarnau o gyw iâr crimp ar sgiwerau gyda sawsiau dipio

Cynhwysion

12 ffiled cyw iâr neu 4 brest cyw iâr heb groen, wedi'u torri'n stribedi hir
75g o fara sydd ychydig yn hen
Mae bara wedi'i rewi yn gweithio'n dda. Cofiwch ei ddadmer ar dymheredd ystafell neu ei dostio’n syth o'r rhewgell.
40g o gaws dros ben, wedi'i friwsioni neu wedi'i gratio
Halen a phupur du

Dip mayonnaise

6 llwy fwrdd o mayonnaise
2 ewin garlleg, wedi'u plicio a'u mathru
3 llwy fwrdd o berlysiau ffres wedi'u torri, fel basil, taragon, persli
Mae croeso i chi ddefnyddio perlysiau sych neu ffres eraill sydd gennych eisoes - mae perlysiau cymysg sych yn gweithio cystal
1 lemon, wedi'i dorri'n ddarnau
Bydd eich ffrwythau'n para tair gwaith yn hirach os cânt eu storio yn yr oergell!
1 llwy fwrdd o olew

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cofiwch ddadmer eich cig yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr, neu mewn microdon ar ‘dadmer’ yn union cyn ei ddefnyddio.

    Mae’r rysáit hon yn gweithio’n llawn cystal gyda chig wedi’i rewi. Gwiriwch beth sydd gennych yn y rhewgell a dadrewi cig yn drylwyr cyn ei goginio. 

  2. Gwlychwch sgiwerau bambŵ mewn dysgl fas am tua 15 munud.

    Awgrym: Gellid gwneud y rhain heb y sgiwer bambŵ, ond mae gosod y cyw iâr ar sgiwerau yn eu gwneud yn haws eu trin wrth goginio. Mae’n syniad da socian y sgiwerau bambŵ am 15 munud mewn dŵr cyn grilio, i atal llosgi.

     

  3. Rhowch y bara mewn prosesydd bwyd a’i brosesu nes mae’n troi’n friwsion. Trosglwyddwch i ddysgl, a chymysgu’r caws i mewn ac yna ychwanegu blas.

  4. Cymysgwch y mayonnaise, garlleg, perlysiau, a halen a phupur mewn dysgl. Rhowch y cyw iâr mewn dysgl a defnyddio 4 llwy fwrdd o gymysgedd mayonnaise i orchuddio’r darnau cyw iâr. Arbedwch weddill y saws ar gyfer dipio.

  5. Rhowch y cyw iâr ar ffyn bambŵ a’i orchuddio yn y cymysgedd o friwsion bara a chaws. Rhowch ar ddalen pobi nad yw’n glynu a thaenu olew arno.

  6. Coginiwch o dan gril poeth wedi’i gynhesu ymlaen llaw am 4-5 munud ar bob ochr.

  7. Gweinwch gyda gweddill y mayonnaise a’r darnau lemon.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon nes ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.