Skip page header and navigation

Madarch a tharagon ar dost menynaidd

Madarch a tharagon ar dost menynaidd

Bwyd cysurus ar ei orau gan y cogydd arobryn Neil Forbes o Café St Honore yng Nghaeredin.
Gan Neil Forbes
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 10-20 munud
Dwy dafell o fara wedi’i dostio’n grimp gyda madarch wedi’u sleisio ar eu pennau

Cynhwysion

4 tafell o fara da fel surdoes
Mae bara wedi'i rewi yn gweithio'n dda. Cofiwch ei ddadmer ar dymheredd ystafell neu ei dostio’n syth o'r rhewgell.
4 llond llaw mawr o fadarch, a dylid tynnu’r coesynnau, eu sychu ac yna eu sleisio
Beth bynnag sydd gennych yn eich oergell
1 nionyn dodwy banana fawr, wedi'i blicio a'i dorri'n fân
2 ewin o arlleg, wedi'u plicio a'u torri'n fân
Ychydig o goesynnau taragon, wedi'u torri
Llond llaw o bersli cyrliog, wedi'i dorri'n fân
Mae croeso i chi ddefnyddio perlysiau sych neu ffres eraill sydd gennych eisoes - mae perlysiau cymysg sych yn gweithio cystal
Sblash o Madeira
100ml o hufen dwbl
100g o fenyn
Sblash o olew hadau rêp

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Toddwch hanner y menyn a hanner yr olew mewn padell ffrio fawr a ffrio’r bara tan ei fod yn euraidd ar y ddwy ochr ac yna ychwanegu blas a’u gosod i un ochr.

  2. Cynheswch weddill yr olew a’r menyn mewn padell lân a ffrio’r nionod dodwy a’r garlleg. Yna ychwanegu’r madarch wedi’u sleisio a’u coginio am ychydig funudau ar wres uchel. Pan fydd y madarch yn dechrau brownio, ychwanegwch y Madeira a disgleinio’r badell.

  3. Coginiwch tan fod yr hylif wedi lleihau ac yna ychwanegu’r hufen i mewn a dod tan ei fod yn berwi ac yna ychwanegu blas ac ychwanegu’r taragon wedi’i dorri a’r persli ac yna lleihau’r gwres tan y ceir cysondeb braf.

  4. I weini, rhowch y cymysgedd hwn dros y tost cynnes a’i weini ar unwaith.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Ddim yn berthnasol
Amser
Ddim yn berthnasol
Ble i’w storio
Ddim yn berthnasol
Aildwymo
Mae’n well ei weini’n ffres

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.