Cig
Meat recipes
Storio: Darganfod mor hawdd yw rhewi a dadmer eich cig. Mae pwyso’r botwm saib drwy rewi yn rhoi mwy o amser ichi fwyta eich bwyd.

Mae porc yn cyfeirio at ddarnau o gig mochyn amrwd, heb ei halltu, a gellir ei brynu ar amryw ffurf wahanol yn cynnwys golwythion, asennau breision, a darnau mwy ar gyfer eich cinio rhost. Yn ogystal â’u rhostio, gellir ffrio porc mewn padell, ei grilio neu ei goginio yn y crochan araf.

Mae ‘cig oen’ yn cyfeirio at gig dafad sy’n iau na blwydd oed. Math o gig coch ydyw ac mae’n ddewis poblogaidd ar gyfer cinio Sul rhost a gellir ei goginio yn y gril, ei frwysio, a’i goginio ar y barbeciw.

Cigoedd deli, yn gyffredinol, yw cig wedi’i brosesu sy’n cynnig opsiwn cyfleus pan fyddwch yn gweini ar gyfer gwesteion neu ar gyfer prydau bwffe ‘te pigion’ syml. Mae’r grŵp hwn yn cynnwys cigoedd fel chorizo, salami, prosciutto a pepperoni.

Mae cig eidion yn ddewis poblogaidd iawn i’w fwyta gartref ac mae ar gael ar amryw ffurf. Gellir coginio darnau gwahanol o gig eidion mewn amrywiaeth o ffyrdd o ginio dydd Sul rhost i stiw neu farbeciw.

Cig wedi’i halltu yw bacwn, a gellir ei brynu fel sleisys neu fel darn o gig. Caiff ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o seigiau cig ac mae’n frecwast poblogaidd hefyd.

Pei agored traddodiadol Gorllewin Lloegr sy'n rhad, yn eich llenwi ac yn gyflym i'w wneud. Mae'n well ei fwyta'n gynnes yn hytrach na'n boeth, ac mae'n hyfryd yn oer, felly mae'n ddelfrydol ar gyfer picnic neu focsys bwyd.

Rysáit blasus gwych i ddefnyddio cig oen dros ben ac ychydig o gynhwysion syml.

Pryd cynnes ac egsotig ar gyfer y gaeaf, mae'r tajîn hwn yn naws gwych ar gyfer bwyd dros ben y Nadolig.

Mae'r maro hwn wedi'i stwffio â briwgig yn hawdd ac yn flasus. Gallwch ddefnyddio eich hoff rysáit briwgig fel bolognese neu tsili (neu opsiynau llysieuol) i stwffio maro, felly arbrofwch.
