Skip page header and navigation

Maro wedi'i stwffio gyda briwgig cig eidion

Maro wedi'i stwffio gyda briwgig cig eidion

Mae'r maro hwn wedi'i stwffio â briwgig yn hawdd ac yn flasus.

Gallwch ddefnyddio eich hoff rysáit briwgig fel bolognese neu tsili (neu opsiynau llysieuol) i stwffio maro, felly arbrofwch. Mae caws wedi'i gratio'n ar ben y maro’n ddewis da hefyd. Gallwch hefyd wneud i’r briwgig fynd ymhellach trwy ychwanegu ychydig o geirch neu gorbys at y cymysgedd.
Gan Penny's Recipes
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 30-45 munud
a halved marrow stuffed with beef mince and tomatoes

Cynhwysion

Maro maint canolig (tua 1.5kg/3 phwys), wedi'i dorri'n wyth tafell
500g/1 pwys o friwgig cig eidion heb lawer o fraster
Mae'r rysáit yn gweithio'n berffaith gyda chig wedi'i rewi. Edrychwch beth sydd gennych yn eich rhewgell a chofiwch ddadmer cig yn drylwyr cyn ei goginio.
1 winwnsyn, wedi'i blicio a'i dorri
Defnyddiwch yr hyn sydd gennych chi. Mae shibwns, cennin neu nionod dodwy yn gweithio'n dda yma.
2 ewin garlleg, wedi'u plicio a'u torri
400g/14 owns o domatos tun
Ychwanegwch unrhyw domatos ffres sydd angen eu defnyddio.
2 lwy fwrdd o olew olewydd
2 lwy de o berlysiau cymysg
1 llwy fwrdd o biwrî tomato
2 lwy fwrdd o gaws Cheddar neu gaws Parma neu debyg wedi'i gratio

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cofiwch ddadmer eich cig yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr, neu yn y microdon ar ‘dadmer’ yn union cyn ei ddefnyddio.

    Mae’r rysáit hon yn gweithio’n llawn cystal gyda chig wedi’i rewi. Gwiriwch beth sydd gennych yn y rhewgell a dadrewi cig yn drylwyr cyn ei goginio. 

  2. Cynheswch y ffwrn i 180°C.

  3. Cynheswch yr olew olewydd mewn sosban fawr â gwaelod trwm.

  4. Ffriwch y winwnsyn tan ei fod yn feddal.

  5. Ychwanegwch y garlleg a’r briwgig cig eidion a’u coginio am rai munudau tan ei fod wedi brownio.

  6. Ychwanegwch y tomatos, y perlysiau a’r piwrî tomato a’u coginio am 20 munud.

  7. Yn y cyfamser, tynnwch ganol pob cylch maro allan ac yna rhoi pob cylch maro mewn dysgl pobi fawr.

  8. Rhowch gyfran o’r saws briwgig i ganol pob cylch maro ac yna arllwys gweddill y saws dros y top.

  9. Gorchuddiwch â ffoil a’u pobi yn y ffwrn am tua 30 munud.

  10. Tynnwch y ffoil, a gwasgaru ychydig o gaws ar ben y maro a’u rhoi yn ôl yn y ffwrn heb eu gorchuddio am 10 munud.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.