Skip page header and navigation

Tost Ffrengig gyda mêl

Tost Ffrengig gyda mêl

Gall hen fara gael ei atgyfodi gyda'r brecwast bendigedig hwn. Gweinwch gyda llwyaid hael o iogwrt Groegaidd.
Gan Caroline Marson
Yn gweini 2
Amser Paratoi/Coginio: 10 munud
Plât gwyn gyda thafelli o dost Ffrengig, gyda mêl a ffrwythau ar eu pennau

Cynhwysion

2 wy bach, wedi'u curo'n ysgafn
150ml o laeth cynnes
2 dafell o hen fara wedi'u torri'n drionglau
1 pinsiad sinamon
1 pinsiad nytmeg
25g o fenyn heb halen
1 pinsiad cardamom (dewisol)
1 pinsiad clof mâl sych (dewisol)
Mêl i weini

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cynheswch y llaeth, yna ei gymysgu gyda’r wy wedi’i guro a’r sbeisys.

  2. Rhowch y tafelli bara mewn cynhwysydd bas a’u gorchuddio â’r cymysgedd llaeth a’i adael i socian am 5 munud.

  3. Cynheswch badell ffrio fawr ac ychwanegu’r menyn. Pan fydd y menyn yn ewynnog, ychwanegwch y tafelli bara a’u ffrio dros wres uchel am 1 munud ar bob ochr. Pan fyddant yn euraidd ar y ddwy ochr arllwyswch â mêl a’u gweini ar unwaith.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Mae’n well ei fwyta'n ffres
Amser
Mae’n well ei fwyta ar unwaith
Ble i’w storio
Ddim yn berthnasol
Aildwymo
Ddim yn berthnasol

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.