Skip page header and navigation

Kyiv Cyw Iâr

Kyiv Cyw Iâr

Mae'r pryd enwog hwn o Wcráin yn bryd teuluol poblogaidd ac yn ffordd flasus o adfywio cyw iâr a defnyddio unrhyw fara sydd wedi dechrau mynd yn hen.
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 2
Amser Paratoi/Coginio: 45 munud
Kyiv cyw iâr briwsionllyd wedi’i dorri’n ei hanner, yn llawn saws garlleg

Cynhwysion

2 ffiled cyw iâr
40g o fenyn, wedi'i feddalu
100g o flawd plaen
2 ewin o arlleg
Dil i flasu
Pinsiad o bupur gwyn wedi'i falu
Pinsiad o halen
2 wy
150ml o olew blodau’r haul
100g o fara ar gyfer briwsion bara

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Gan ddefnyddio cyllell finiog torrwch boced ddofn yn eich cyw iâr heb dorri trwodd i ochr arall y cig.

  2. Torrwch y garlleg a’i gymysgu mewn dysgl gyda’r menyn wedi’i feddalu a’r dil.

  3. Rhowch y gymysgedd menyn yn y boced yng nghanol y cyw iâr a’i wasgu’n fflat a’i selio â’ch dwylo.

  4. Ychwanegwch halen a phupur ac ailadrodd y camau ar gyfer y ffiled arall.

  5. Curwch yr wyau a dipio bob ffiled yn y gymysgedd.

  6. Gorchuddiwch y 2 ffiled mewn blawd ac yn olaf yn y briwsion bara tan eu bod wedi’u gorchuddio’n llawn.

  7. Cynheswch yr olew blodau’r haul mewn padell ffrio ac yna rhoi’r cyw iâr i mewn i frownio.

  8. Ar ôl i’r cyw iâr gael ei ffrio ar bob ochr rhowch ef ar glawr pobi.

  9. Coginiwch yn y ffwrn ar 180°C am 20 munud i goginio’r cig drwyddo.

  10. Cofiwch rewi unrhyw ddognau nad ydych chi’n eu bwyta y tro hwn i’w harbed rhag mynd i’r bin. Dyma ffordd wych o arbed amser ar gyfer pryd o fwyd syml ar gyfer diwrnod arall pan fyddwch efallai’n brysur.

    Dylech ddadrewi dognau wedi’u rhewi yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr, neu gallech eu dadrewi yn y microdon ar ‘defrost’ yn syth cyn eu defnyddio. 

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell 3-6 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Rhowch y pryd yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.