Skip page header and navigation

Ffriterau corn-bîff gydag india-corn a salsa eirin gwlanog

Ffriterau corn-bîff gydag india-corn a salsa eirin gwlanog

Rydyn ni'n gwneud corn-bîff yn cŵl gyda’r rysáit ffriterau syml hon. Mae'r salsa melys a creisionllyd yn ategiad gwych i’r ffriterau sawrus hyn – dyma rysáit wych sy'n dibynnu ar rai hanfodion o’r cwpwrdd bwyd.
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 30 munud
Fritters Cig Eidion

Cynhwysion

Ar gyfer y ffriterau

1 Tun 340g o gorn-bîff
2 x shibwns
100g o flawd plaen
1 llwy de o bowdr pobi
2 wy
75ml o laeth
1 llwy de o baprica

Ar gyfer y salsa

Tua 200g o eirin gwlanog tun mewn sudd eirin gwlanog
Tun 198g o india-corn
4 x shibwns
Sudd 1 leim
1 llwy de o fflochiau tsili
Coriander ffres

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Yn gyntaf, gwnewch eich salsa gan dorri eich eirin gwlanog tun yn fân a’u hychwanegu i ddysgl gydag india-corn wedi’i ddraenio, 4 x shibwns wedi’i sleisio, halen, pupur ac 1 llwy de o fflochiau tsili.

  2. Ychwanegwch sudd 1 leim ac ychydig o’r sudd eirin gwlanog a’i droi i gyfuno. Unwaith y byddwch yn hapus gyda’r blas, ychwanegwch lond llaw o goriander wedi’i dorri’n fân a’i roi i un ochr.

  3. Cynheswch eich ffwrn i 180 (ffan 160) a leinio clawr pobi gyda phapur pobi.

  4. Torrwch eich corn-bîff yn giwbiau bach a sleisio 2 x shibwns ychwanegol yn denau.

  5. Ychwanegwch eich blawd plaen, y powdr pobi a phaprica i ddysgl gyda halen a phupur a’u cymysgu i’w cyfuno.

  6. Mewn dysgl neu jwg ar wahân, curwch eich wyau a’ch llaeth gyda’i gilydd cyn ei ychwanegu at eich cynhwysion sych. Trowch neu guro’r gymysgedd tan fod gennych gytew llyfn.

  7. Ychwanegwch eich corn-bîff wedi’i dorri a’ch shibwns, a’u troi i gyfuno.

  8. Ychwanegwch swm da o olew mewn padell ffrio ac unwaith bydd yn boeth, ychwanegu llond llwy fawr o’ch cytew a cheisio cadw’r siâp cylch cymaint â phosibl.

  9. Ffriwch eich ffriter am 3-4 munud cyn ei droi drosodd – mae angen iddyn nhw fod yn frown euraidd ar bob ochr.

        

     

  10. Ychwanegwch bob ffriter wedi’i goginio ar y clawr pobi wedi’i leinio â phapur pobi a’u rhoi yn ôl yn y ffwrn i gadw’n gynnes wrth i chi goginio gweddill y ffriterau

  11. Gweinwch y ffriterau ochr yn ochr â’r salsa a’u mwynhau!

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell 3-6 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.