Skip page header and navigation

Gwrd cnau menyn mewn crochan araf a dip caws mwg

Gwrd cnau menyn mewn crochan araf a dip caws mwg

Yn ddewis arall gwych i hwmws, mae'r dip melys a myglyd hwn yn defnyddio'r microdon ac yn dod at ei gilydd yn y crochan araf. Mae’n wych ar gyfer dipio llysiau, pita, sglodion a chracers. Dyma rysáit gwych i ddefnyddio bwyd dros ben o’r bwrdd caws Nadolig (os oes gennych chi beth dros ben). Mae'r rysáit hon yn gwneud swp mawr, ond mae'n hawdd ei leihau i hanner.
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 1 awr
Pwmpen cnau menyn o’r crochan araf a dip caws mwg

Cynhwysion

800g o gwrd cnau menyn, wedi'u plicio a'u torri’n giwbiau
125g o gaws Cheddar mwg a’i gratio (25g ar gyfer topin)
Cadwch unrhyw Cheddar wedi'i gratio nas defnyddiwyd yn y rhewgell. Nid oes angen ei ddadmer os ydych yn ei ychwanegu at brydau wedi'u coginio.
125g o gaws Cheddar aeddfed ychwanegol, wedi'i gratio (25g ar gyfer topin)
150g o gaws hufen braster isel
1 llwy de o baprica mwg
1 llwy de o bowdr garlleg
Sudd ½ lemwn
3 neu 4 shibwns, wedi'u golchi a'u sleisio'n fân
Pupur du

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Rhowch y gwrd yn y ficrodon mewn dysgl y gellir ei rhoi mewn microdon a’i goginio yn y ficrodon am tua 5 munud (neu tan ei fod yn feddal ac yn frau).

  2. Ychwanegwch eich gwrd, y pupur du, paprica, powdr garlleg a 100g o’r cawsiau Cheddar mwg a’r cawsiau Cheddar aeddfed ychwanegol wedi’u gratio at y crochan araf, a’u coginio am 45 munud, neu tan fod y caws wedi toddi.

  3. Ychwanegwch y caws hufen, y sudd lemwn a’r shibwns a’u cymysgu â chymysgydd tan eu bod yn llyfn.

  4. Rhowch y caws sy’n weddill ar ben y gymysgedd ac yna rhoi’r arno a’i goginio tan fod y caws wedi toddi. Os nad ydych yn ei weini ar unwaith, ei ychwanegu i ddysgl sy’n addas ar gyfer y ffwrn a’i roi yn yr oergell unwaith y bydd wedi oeri. Pan fyddwch yn barod i’w weini, coginiwch ar 180 am tua 20 munud cyn rhoi gweddill y caws ar ei ben a’i grilio tan ei fod yn byrlymu!

  5. Gweinwch gyda’ch hoff crudités a dipiau.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell 3 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Dylid ei aildwymo yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Dylid ei aildwymo unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.