Beth i’w wneud gyda bwyd dros ben dros y Pasg
Cinio Sul y Pasg
P’un ai cig oen rhost traddodiadol fyddwch chi’n ei ddewis ar gyfer eich cinio Sul y Pasg, neu a fyddwch yn dewis cyw iâr, cig eidion neu dorth cnau rhost sydd oll yr un mor boblogaidd, mae’n debygol y bydd digon dros ben i gael rhagor ar eich plât! Os bydd mwy nag y byddwch yn llwyddo i’w fwyta mewn un pryd bwyd, na phoener – mae digon y gallwch ei wneud gyda’r hyn sydd dros ben. Cyn belled â’i fod wedi’i storio’n gywir yn yr oergell, mae’n iawn am gwpl o ddyddiau i wneud prydau bwyd hawdd.
Mae cig rhost yn flasus wedi’i weini’n oer gyda siytni, taten drwy’i chroen a salad y diwrnod wedyn, ac mae’n ddewis gwych ar gyfer brechdanau neu wraps ddydd Llun Pasg hefyd! Mae ein patis cinio Sul dros ben yn syniad bendigedig arall ar gyfer defnyddio cig, llysiau a thatws rhost dros ben, ynghyd ag unrhyw grefi na wnaethoch lwyddo i’w ddefnyddio.
Gallech hefyd aildwymo’r cig, tatws rhost a llysiau yn y microdon i wneud swper y diwrnod wedyn, eu rhewi mewn bag rhewgell at rywdro eto, neu eu hychwanegu at gawl cynhesol, powlen o nwdls, neu eich hoff saig pasta. Torrwch dameidiau o gig dros ben yn stribedi a’u defnyddio i ychwanegu at dro-ffrio neu gyri, neu i wneud cinio ysgafn neu gwrs cyntaf blasus ar ddydd Llun y Pasg, beth am ychwanegu eich bwydydd dros ben o’r cinio Sul i wneud bruschetta Eidalaidd cymysg?
Byns y Grog
Mae byns y Grog bob amser yn drît blasus yr adeg hon o’r flwyddyn, ac maen nhw ar gael mewn amrywiaeth o wahanol flasau. Ynghyd â’r rysáit draddodiadol, mae’r archfarchnadoedd nawr yn llawn fersiynau cyffrous ar fformat y fynsen y Grog, fel blas afal a sinamon neu siocled ac oren. Os cawsoch eich hudo gan yr holl ddewis, a bod gennych nawr ormod yn y tŷ, byddwch yn falch o glywed nad yw hi’n ddiwedd y byd!
Gallwch, wrth gwrs, eu rhewi ar gyfer rywdro eto, ond os nad oes lle yn y rhewgell, neu os oes gennych fyns hen i’w defnyddio, rhowch gynnig ar wneud pwdin bara menyn gyda byns y Grog! Y cwbl y mae angen ichi ei wneud yw cyfnewid bara cyffredin am fyns y Grog i gael mwynhau’r pwdin clasurol hwn ar wedd newydd – bydd byns o unrhyw flas yn gweithio’n wych. Mae’n gweithio gyda bara Pasg Eidalaidd hefyd, a bara Columba Pasquale hefyd, os mai dyna sy’n mynd â’ch bryd!
Siocled y Pasg
Fuasai’r un drafodaeth am wledda’r Pasg yn gyflawn heb drafod siocled. Os yw eich cartref yn llawn siocled, a bod llawer mwy nag y gallwch ei fwyta, mae’n amser ei ddefnyddio i greu rhywbeth arall.
Yn gyntaf, gallech doddi unrhyw siocled plaen sy’n llechu yn y cwpwrdd, a’i ddefnyddio i wneud brownis siocled blasus, gan dorri wyau siocled gyda phlisgyn siwgr candi a’u taenu ar ben y brownis i’w gwneud yn lliwgar a rhoi naws y Pasg arnynt. Os oes gormod o frownis i’w bwyta’n syth bin, gellir eu rhewi neu eu rhannu gyda ffrindiau a theulu fel danteithion Pasg hwyr.
Mae wyau gyda phlisgyn siwgr candi yn berffaith i’w malu a gwneud cwcis naddion siocled ohonynt. Fel arall, cadwch nhw’n gyfan a’u defnyddio i addurno nythod Pasg siocled. Mae’r rhain yn ffordd wych o ddefnyddio creision ŷd, a beth am ddefnyddio wyau Pasg wedi’u toddi i glymu’r creision ŷd at ei gilydd i ffurfio’r nythod?
Ffordd arall flasus o ddefnyddio siocled wyau Pasg yw ein teisen oergell siocled dros ben, sy’n flasus iawn ac yn andros o hawdd i’w pharatoi. Mae’n gweithio llawn cystal gyda siocled plaen, gwyn neu frown. Bydd hefyd yn ffordd o ddefnyddio unrhyw resins a chnau sy’n llechu yn y cwpwrdd bwyd! Mae heol hocys/rocky road a tiffin yn ddanteithion eraill y gallwch ddefnyddio bron unrhyw fath o siocled Pasg i’w gwneud.
Yn olaf, gallwch gymysgu eich siocled Pasg a’i gymysgu â llaeth poeth i wneud siocled poeth moethus, blasus. Cydymaith ardderchog i’r darn olaf o deisen Rawys!