Skip page header and navigation

Bruschetta cymysg Eidalaidd

Bruschetta cymysg Eidalaidd

Mae bruschetta yn ffordd wych o ddefnyddio eitemau o'ch oergell, defnyddio amrywiaeth o gaws dros ben, cigoedd wedi'u coginio, tomatos a ffa, yn y bôn mae unrhyw beth yn gwneud y tro! Gweinwch fel cinio ysgafn neu cyn prif bryd o fwyd.

Cadwch roliau bara yn y rhewgell, maen nhw'n dadmer mewn 30 munud ac maen nhw'r maint perffaith i wneud bruschetta.
Gan Caroline Marson
Yn gweini 16
Amser Paratoi/Coginio: 30-45 munud
Plât o bruschetta wedi’i amgylchynu gan berlysiau ffres, bara a llysiau

Cynhwysion

4 rholyn bara
Mae bara wedi'i rewi yn gweithio'n dda. Cofiwch eu dadmer ar dymheredd ystafell neu eu tostio’n syth o'r rhewgell.
2 lwy fwrdd o olew olewydd
1 llwy fwrdd o berlysiau sych, fel teim a rhosmari
1 ewin garlleg, wedi'i blicio a'i dorri'n hanner

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cynheswch y ffwrn i 180°C (350°F) marc 4. Torrwch y rholiau yn dafelli 3mm.

  2. Brwsiwch y tafelli gydag ychydig o olew olewydd, a’u rhoi ar glawr pobi mewn un haen a gwasgaru ychydig o berlysiau sych dros y rholiau.

  3. Coginiwch am 10 munud a thra eu bod yn dal yn boeth, eu rhwbio gyda’r tafelli o arlleg.

  4. Nawr gorffennwch y bruschetta gyda’r topin o’ch dewis yn dibynnu ar gynnwys eich oergell:

  5. Opsiynau

    Brocoli a mintys – Mewn prosesydd bwyd ychwanegwch 150g o frocoli wedi’i goginio a’i flendio am ychydig eiliadau ac yna ychwanegu 25g o gnau pinwydd, 55g o gaws Parma wedi’i gratio a 3 llwy fwrdd o olew olewydd. Yna, blendio’r cymysgedd am 10 eiliad arall ac yna cymysgu 2 lwy fwrdd o fintys wedi’u torri i mewn i’r gymysgedd ac ychwanegu blas gyda phupur du ac ychydig o sudd lemwn. Rhannwch y gymysgedd rhwng pob bruschetta.

  6. Caws tawdd melys – Defnyddiwch unrhyw gaws dros ben sydd gennych yn eich oergell a’i gratio neu ei friwsioni a’i rannu rhwng pob bruschetta ac ychwanegu llwy de o saws llugaeron, ei roi o dan gril poeth am 2-3 munud neu tan ei fod yn dechrau toddi.

  7. Twrci, Brie a llugaeron - Torrwch 150g o Brie yn dafelli bach, a’i rannu rhwng y bruschetta a rhoi 100g o dwrci wedi’i goginio wedi’i sleisio ac ychydig o saws llugaeron arnynt.

  8. Cig eidion a winwnsyn wedi’i garameleiddio - Cynheswch ychydig o olew mewn padell â gwaelod trwchus, ac ychwanegu 300g o winwnsyn coch wedi’u sleisio eu gorchuddio a’u coginio dros wres isel tan eu bod yn feddal. Ychwanegwch ½ llwy fwrdd o siwgr brown a ½ llwy fwrdd o finegr, eu coginio, a’u troi tan eu bod wedi carameleiddio. Sleisiwch gig eidion wedi’i goginio’n denau a thaenu mwstard ar y Bruschetta, a rhowch y cig eidion, y winwns wedi’u carameleiddio a rhywfaint o bersli wedi’i dorri ar ei ben.

  9. Tomato ac olewydd – Torrwch 175g o domatos yn ddarnau bach a thorri tomatos bach yn chwarteri ac yna ychwanegu llond llaw o olewydd du, ychydig o gaprau ac ychwanegwch 2 lwy fwrdd o olew olewydd pur a dail basil wedi’u rhwygo. Rhannwch y gymysgedd rhwng pob bruschetta ac ychwanegu blas gyda phupur du.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Mae’n well ei fwyta ar unwaith. Storiwch unrhyw fara bruschetta sydd dros ben yn yr oergell.
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Ddim yn berthnasol

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.