Skip page header and navigation

Beth sydd yn ei dymor ym mis Chwefror? 

Yn ystod y flwyddyn sydd o’n blaenau, byddwn yn edrych ar brydau blasus y gallwch eu creu i fanteisio i’r eithaf ar y cynnyrch sydd yn ei dymor bob mis. Drwy brynu bwyd lleol tymhorol, rydych chi’n chwarae eich rhan i leihau eich ôl-troed bwyd sy’n helpu i warchod ein planed hyfryd. 

Ffrwythau a llysiau i’w mwynhau ym mis Chwefror

Mae’r canllaw defnyddiol hwn gan y Vegetarian Society yn dweud wrthym mai’r ffrwythau a llysiau sydd ar eu gorau’r mis yma yw:

Afalau, Betys, Sbrowts, Moron, Seleriac, Sicori, Artisiog Jerwsalem, Cêl, Cennin, Madarch, Winwns, Pannas, Gellyg, Brocoli Hirgoes, Bresych Coch, Salsiffi, Bresych Crych, Bresych Deiliog, Shibwns, Gwrd, Swêj, Bresych Gwyn.

O blith y rhestr llawn temtasiwn hwn, rydym wedi dewis ein hoff gynhwysion ffres i roi ysbrydoliaeth ichi yn y gegin a gwneud yn siŵr na chaiff yr un tamaid ei wastraffu. Beth fyddwch chi’n ei ychwanegu at eich cynlluniau prydau bwyd mis Chwefror?

Moron

Caiff nifer syfrdanol – 2.7 miliwn – o foron cyfan eu taflu yn y Deyrnas Unedig bob dydd – ie, bob dydd! Gyda’r holl ffyrdd blasus o ddefnyddio ein moron, does dim rheswm iddyn nhw fynd i’r bin. 

Cennin

Mae cennin yn boblogaidd am eu blas winwns mwyn, ac yn gynhwysyn ardderchog mewn bob math o brydau bwyd, yn ogystal â bod yn flasus wedi’u stemio neu eu ffrio mewn menyn i’w mwynhau fel saig ar y naill ochr. Rhowch gynnig ar y pizza cennin a thatws dros ben hwn os bydd gennych datws i’w defnyddio hefyd – neu’r clasur hwn, cawl cennin a thatws, sy’n addas i’w rewi fesul dogn i wneud cinio hawdd rywdro eto. 

Madarch

Mae madarch ffres ar eu gorau o fis Rhagfyr tan fis Mawrth, ac maen nhw’n flasus wedi’u ffrio mewn menyn a’i gweini ar dost. Gallwch stwffio madarch mwy, fel rhai Portobello, gyda chaws, a’u rhostio i greu cwrs blasus i ddechrau, neu i gyd-fynd â’ch prif gwrs. Os oes angen ichi goginio ar gyfer ambell un sy’n troi eu trwynau ar fadarch, gallwch eu cuddio’n hawdd mewn sawsiau fel Bolognese – torrwch nhw’n fân iawn (neu gallech eu gratio) a wnân nhw ddim sylwi! 

Gydag ansawdd sy’n debyg i stecen, mae madarch Portobello yn gwneud dewis da i’w gyfnewid am fyrgyr cig eidion. Gallwch hefyd gratio unrhyw fadarch dros ben, a’u cymysgu gydag wyau, blawd, winwns a briwsion bara (ffordd wych o ddefnyddio hen fara!) i wneud patis llysieuol blasus. Dyma bryd o fwyd syml y gallwch ei adael i ffrwtian drwy’r dydd: gwledd o ffacbys a madarch mewn crochan araf.

Bresych

Efallai nad yw bresych yn eich taro fel cynhwysyn cyffrous iawn, ond mae ambell wahanol fath o fresych i’w mwynhau’r mis yma – gwyn, crych a choch – ac mae’n syndod cymaint y gallwch ei wneud â nhw. Yn ogystal â’u stemio, eu berwi neu eu rhostio mewn lletemau fel rhan o’ch cinio rhost ar ddydd Sul, gallwch drawsnewid bresych amrwd a gwneud colslo crensiog i gyd-fynd yn wych ag unrhyw gig dros ben (neu eich byrgyrs madarch!). Mae’n wych hefyd ar gyfer chwyddo eich saig tro-ffrio, ei biclo i wneud sauerkraut cartref neu ei ychwanegu at gawl neu stiw cynhesol i’ch helpu i oroesi wythnosau olaf y gaeaf.

Ewch i bori ein banc rysetiau am ddigonedd o ysbrydoliaeth coginio, a dewch yn ôl mis nesaf am ragor o syniadau ar gyfer defnyddio cynnyrch ffres ym mis Mawrth!



 

Rhannu’r post blog hwn