Y canllaw cynllunio gorau erioed ar gyfer bwyd y Dolig
Y canllaw cynllunio gorau erioed ar gyfer bwyd y Dolig
O fynd dros ben llestri gyda’r mins peis, i brynu llu o bwdinau gwahanol i’r rhai sy’n troi eu trwynau ar bwdin Dolig, hawdd iawn yw prynu gormod dros yr Ŵyl. Mae ambell reswm dros hyn:
Rydyn ni eisiau mwynhau moethau dros y Dolig, a rhoi trît i’n gwesteion, sy’n golygu ei bod yn anoddach nag arfer dyfalu faint o fwyd i’w brynu fesul person
Rydyn ni’n aml yn poeni am redeg allan o fwydydd penodol a methu cael rhagor ohono ar y funud olaf, gyda siopau’n rhedeg allan o nwyddau neu’n cau dros gyfnod yr Ŵyl – felly rydyn ni’n prynu mwy “jyst rhag ofn”
Mae pobl eraill yn gwneud, felly rydyn ni’n teimlo bod rhaid i ni wneud hefyd – gall teimlo pwysau o weld ein cyfoedion yn gwneud fod yn beth pwerus, yn enwedig gyda’r holl blateidiau toreithiog sydd i’w gweld yn y cyfryngau yr adeg hon o’r flwyddyn
Canlyniad hyn oll yw ei bod yn hawdd bod â llawer mwy o fwyd nag oedd ei angen arnoch. Mae ymchwil gan Which? yn dangos mai’r bwydydd Nadoligaidd y mae pobl yn prynu gormod ohonynt gan amlaf yw caws, bisgedi, siocled, alcohol a llysiau. Ond peidiwch â phoeni – os yw hynny’n swnio’n gyfarwydd, gall ychydig o waith cynllunio fod yn allweddol i osgoi disgyn i’r un fagl! Dyma sut i gymryd rheolaeth dros eich gwariant bwyd Nadolig.
1. Cynllunio prydau bwyd y Nadolig
Rydyn ni wedi arfer cynllunio ein hanrhegion, felly rhowch yr un driniaeth i’ch prydau bwyd! I ddechrau arni gyda’ch cynllunio bwyd Nadolig, bydd angen ichi wybod:
Faint o westeion fydd gennych chi
Pa brydau bwyd y byddan nhw’n ymuno â chi ar eu cyfer
Eu hoedrannau – mi fydd plentyn 5 oed yn bwyta llai na rhywun yn ei arddegau sy’n llwglyd drwy’r amser, neu oedolyn!
Eu dewisiadau diet ac alergeddau – po fwyaf o fwyd y gallwch ei weini sy’n gweddu i anghenion diet pawb, po leiaf fyddwch chi’n ei wastraffu
Dylech nawr allu dechrau mapio beth fyddwch chi’n ei weini ar gyfer bob pryd dros gyfnod yr Ŵyl. Cofiwch mai dim ond aelodau arferol eich aelwyd fydd yno rywfaint o’r amser, efalla, felly cynlluniwch y prydau hynny yn ogystal â’r rhai pan fydd gwesteion acw. Wrth ichi ddechrau cynllunio, edrychwch yn eich cypyrddau, yn yr oergell a’r rhewgell i weld a oes rhywbeth yno’n barod a fyddai’n gweithio fel rhan o’ch cynllun prydau bwyd.
Cofiwch gynnwys y bwyd dros ben wrth gynllunio – fel twrci – a chynllunio bwydydd i’w gweini gyda nhw, fel tatws trwy’u crwyn a salad. Pan rydych chi’n meddwl am sut i arlwyo ar gyfer anghenion dietegol arbennig, cofiwch y gall fod yn anodd darparu sawl pryd bwyd gwahanol heb gael bwyd dros ben. Felly, dewiswch fwydydd y gellir eu mwynhau fel bwyd dros ben, neu rai llysieuol y mae’r rhai sy’n bwyta cig yr un mor debygol o’u mwynhau, fel llysiau y bydd pawb yn eu pentyrru ar eu platiau.
Gallech hefyd ystyried cynllunio coginio fesul swp ar gyfer ambell saig, prydau y mae’n hawdd eu helaethu i weini mwy o bobl (fel cyri neu tsili), ac y gellir eu mwynhau am fwy nag un pryd bwyd, i gael manteisio i’r eithaf ar gynhwysion mwy sy’n fwy costeffeithiol. Mae coginio bwyd mewn swp hefyd yn golygu y byddwch yn treulio llai o amser yn y gegin yn y pen draw!
2. Defnyddiwch gynllunydd dognau
Nesaf, mae’n bryd ichi gyfrifo faint o fwyd fydd ei angen arnoch mewn gwirionedd. Mae ein cyfrifydd dognau bwyd yn lle gwych i ddechrau os nad ydych chi’n siŵr sut i fynd o’i chwmpas hi – fe wnaiff ddweud wrthych faint fydd ei angen o bob math o fwyd, mewn gramau yn ogystal â dulliau mesur eraill, fel tafelli neu lond llaw ac ati.
Mae gan BBC Good Food hefyd Gynllunydd dognau yn arbennig ar gyfer y Nadolig - i’ch helpu i gynllunio eich prif ginio Nadolig, yn cynnwys y cwestiwn hollbwysig: faint o dwrci sydd ei angen fesul person (gair o gyngor: efallai na fydd angen twrci cyfan arnoch!).
3. Llunio eich rhestr siopa
Gyda help eich cynllun prydau bwyd a’r cynllunydd dognau, rydych chi nawr yn barod i lunio rhestr siopa bwyd Nadolig. Efallai bod hyn yn swnio’n amlwg, ond mae llunio rhestr siopa yn seiliedig ar yr hyn sydd ei angen arnoch, a chadw ato, yn ffordd wych o fod yn ddisgybledig pan fyddwch yn yr archfarchnad a llu o ddanteithion Nadoligaidd yn eich temtio! Darllenwch fwy am lunio rhestr siopa sy’n gweithio i chi.
4. Rhannu’r siopa – a’r bwyd dros ben!
Os oes gennych chi westeion yn dod draw dros y Dolig, beth am gytuno i rannu’r siopa fel na fydd y baich i gyd ar eich ysgwyddau chi? Does dim drwg gofyn i’ch gwesteion ddod â rhywbeth gyda nhw – boed hynny’n gwrs i ddechrau’r wledd, yn bwdin, neu’n fanion i bori arnyn nhw – a gallech hyd yn oed roi her i bob person neu deulu gael gafael ar eitemau penodol, e.e. “0.5kg o foron” neu “1 pecyn o ham mwg derw (10 sleisen)”. Gellir rhannu unrhyw fwyd dros ben yn yr un modd wedyn, fel nad oes dim byd yn wastraff.
5. Ansawdd – nid maint
Egwyddor dda i’w chofio er mwyn osgoi gwastraff bwyd dros y Dolig yw ‘ansawdd – nid maint’. Hynny yw, yn hytrach na phrynu gormodedd o fwyd, prynu llai ond prynu’n ddoeth. Er enghraifft, os nad ydych chi’n bwydo torf o bobl, yna does dim angen prynu twrci cyfan – gallech ddewis coron twrci yn hytrach. Yn yr un modd, mae twrci organig bach yn well nag un rhad enfawr.
Mae’r un peth yn wir am y pethau ychwanegol rydyn ni’n eu mwynhau dros yr Ŵyl. Ceisiwch ymwrthod â’r demtasiwn i brynu pecyn mawr o fisgedi bargen os ydych chi’n annhebygol o’u bwyta i gyd; prynwch becyn bach o fisgedi moethus yn hytrach. Hefyd, gallai cwpl o gawsiau unigol o ansawdd dda fod yn fwy blasus ac yn rhatach na phrynu bord caws wedi’i greu’n barod – yn enwedig os oes rhai mathau nad oes neb yn hoff ohonynt …
Yn olaf, peidiwch â theimlo bod rhaid ichi gadw at draddodiadau bwyd penodol. Os nad ydych chi’n hoff o dwrci, a bob amser gyda gormod ohono dros ben (mae tyrcwn yn anifeiliaid mawr!), beth am rostio cyw iâr, neu rywbeth arall rydych yn siŵr o’i fwynhau a’i ddefnyddio i gyd? Gweler hefyd sbrowts, pwdin Dolig, pannas…
Wrth gwrs, os byddwch yn prynu gormod yn y pen draw, mae digonedd o ffyrdd i ddefnyddio bwydydd Nadoligaidd a gwneud i’ch siopa bwyd Dolig fynd ymhellach. Cadwch lygad allan am bost blog sy’n llawn ysbrydoliaeth ar gyfer bwyd Dolig dros ben!