Cig
Meat recipes
Mae'r rysáit hon yn wych i grŵp o bobl fynd ati i adeiladu eu fajitas eu hunain.
Manteisiwch i’r eithaf ar fwyd dros ben o bryd o fwyd Nadolig trwy gyfuno twrci wedi'i goginio, saws llugaeron a stwffin yn y bastai Nadoligaidd hon.
Mae'r rysáit hon yn cynnwys stwffin bricyll cain gyda saws seidr melys ac mae'n ffordd wych o ddefnyddio bara dros ben.
Y syniad y tu ôl i'r pryd hwn yw helpu gyda gwastraff bara, reis a gwreiddlysiau a rhywbeth ar gyfer unrhyw un sy’n hiraethu am eu hoff fwyty cyri katsu (dim enwau!).
Pei briwgig ffrwythau melys a sur sbeislyd blasus, ffordd wych o ddefnyddio cig a llysiau dros ben
Mae'r blasau gwin cynnes y mae'r cyw iâr wedi'i goginio ynddo yn flasus wedi'i weini â thatws stwnsh cennin hufennog neu datws pob neu gallech hyd yn oed ei weini â chwscws. Gweinwch gyda llysiau tymhorol neu fresych coch wedi’i frwysio.
Mae'r bara hwn heb furum yn hawdd i'w wneud ac mae'n ffordd wych o ddefnyddio ham neu facwn a thomatos dros ben.
Gall bron iawn unrhyw beth sy'n agos at ei ddyddiad defnyddio gael ei drawsnewid ar ffurf omled Sbaenaidd. Gallwch gynnwys tatws wedi'u coginio, llysiau wedi'u coginio fel pys, cennin, moron, courgettes, winwns ac ati, y dafell olaf o gig moch a chaws sy'n mynd yn galed o amgylch yr ymylon.
Ffefryn cadarn yn llawer o gartrefi’r Deyrnas Unedig, gellir coginio cyw iâr mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol – wedi’i rostio ar gyfer cinio dydd Sul, wedi’i ffrio mewn padell, neu ar y barbeciw. Gellir coginio twrci mewn ffyrdd tebyg, ac mae ar gael drwy gydol y flwyddyn.