Chwilio Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
- Type: BwydyddFiganLlysieuolLlysiau dros ben
Mae planhigyn wy yn rhan o’r un teulu â phupurau crwn, tomatos a thatws. Maen nhw’n wych mewn cyri, wedi’u grilio ar y barbeciw, ac wedi’u pobi i wneud prydau blasus o fwyd. Mae planhigyn wy yn rhan o’r un teulu â phupurau melys, tomatos a thatws. Maen nhw’n wych mewn cyri, wedi’u grilio ar y barbeciw, ac wedi’u pobi i wneud prydau blasus o fwyd.
- Type: Bwydydd
Cig wedi’i halltu yw bacwn, a gellir ei brynu fel sleisys neu fel darn o gig. Caiff ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o seigiau cig ac mae’n frecwast poblogaidd hefyd.
- Type: Bwydydd
Mae bara’n un o hanfodion bwyd y Deyrnas Unedig, ac mae i’w gael wedi’i bobi’n ffres mewn siopau bara lleol ac ar amryw ffurf mewn archfarchnadoedd hefyd. Mae llawer o amrywiaethau i ddewis o’u plith, fel bara gwyn, bara grawn amrywiol a bara grawn cyflawn.
- Type: Bwydydd
Dŵr wedi’i garboneiddio yw diodydd pop, ac maent ar gael mewn amrywiaeth o wahanol flasau.
- Type: Bwydydd
Mae sudd ffrwythau ar gael yn helaeth mewn amrywiaeth eang o flasau gwahanol a gellir ei wneud o ffrwythau newydd eu gwasgu neu o sudd crynodedig.
- Type: Bwydydd
Mae llaeth yn gynnyrch sy’n cynnwys llawer o brotein ac mae’n gyfoeth o fwnau fel calsiwm. Gallwch brynu llaeth cyflawn, hanner sgim neu sgim.
- Type: Bwydydd
Mae porc yn cyfeirio at ddarnau o gig mochyn amrwd, heb ei halltu, a gellir ei brynu ar amryw ffurf wahanol yn cynnwys golwythion, asennau breision, a darnau mwy ar gyfer eich cinio rhost. Yn ogystal â’u rhostio, gellir ffrio porc mewn padell, ei grilio neu ei goginio yn y crochan araf.
- Type: BwydyddFiganLlysieuolNadolig
Tatws yw un o’r llysiau mwyaf amlbwrpas – gallwn eu defnyddio mewn amryw o ffyrdd, fel eu stemio, eu pobi a’u stwnshio. Mae llawer o amrywiaethau sy’n rhoi gwahanol flas hefyd, o arlliw o flas cnau i rai â naws mwy menynaidd.
- Type: BwydyddNadolig
Ffefryn cadarn yn llawer o gartrefi’r Deyrnas Unedig, gellir coginio cyw iâr mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol – wedi’i rostio ar gyfer cinio dydd Sul, wedi’i ffrio mewn padell, neu ar y barbeciw. Gellir coginio twrci mewn ffyrdd tebyg, ac mae ar gael drwy gydol y flwyddyn.
- Type: Bwydydd
Cynnyrch llaeth yw menyn, a gaiff ei wneud drwy wahanu llaeth cyflawn yn fraster a llaeth enwyn. Mae amrywiaeth eang o gynhyrchion marjarîn wedi’u gwneud o olewau hylifol llysiau i ddewis o’u plith hefyd, ac mae llawer o fraster amlannirlawn yn y rhain.