Chwilio Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
- Type: RysetiauHeb wyauHawddDefnyddio baraLlysiau dros benFfrwythau dros ben
Mae bruschetta yn ffordd wych o ddefnyddio eitemau o'ch oergell, defnyddio amrywiaeth o gaws dros ben, cigoedd wedi'u coginio, tomatos a ffa, yn y bôn mae unrhyw beth yn gwneud y tro!
Amser coginio: 30-45 munud - Type: RysetiauLlysieuolHawddFfrwythau dros benDefnyddio baraDefnyddio llaeth
Mae'r rysáit hon yn wych ar gyfer pan fyddwch chi'n dod o hyd i'r hen dafelli o fara sydd ar ôl ar ddiwedd y dorth.
Amser coginio: 1 awr + - Type: RysetiauLlysieuolFiganHeb gynnyrch llaethHeb wyauHawddDefnyddio bara
Briwsion bara Eidalaidd, gyda blas perlysiau, garlleg a chroen lemwn. Defnyddiwch yn hael i ychwanegu ychydig o raen a blas i unrhyw beth o basta, cawl, risoto a salad. Ysgeintiwch yn hael ar ben eich pryd.
Amser coginio: 20-30 munud - Type: RysetiauLlysieuolCanolraddDefnyddio baraDefnyddio llaeth
Trît melys cynnes a ffordd wych o ddefnyddio bara gwyn wedi'i sleisio sydd ychydig yn hen.
Amser coginio: 1 awr + - Type: RysetiauLlysieuolHawddCoginio gyda’r plantFfrwythau dros ben
Mae gwneud Bara Banana yn ffordd boblogaidd o ddefnyddio bananas dros ben, ond os oes gennych chi hefyd hanner jar o fenyn pysgnau yn y cwpwrdd gallwch chi fynd â'r pryd clasurol hwn i'r lefel nesaf!
Amser coginio: 45-60 munud - Type: RysetiauLlysieuolHeb gynnyrch llaethCanolraddDefnyddio bara
Yn yr achos hwn, mae wedi'i wneud â risoto madarch gwyllt sydd dros ben a hen dafelli o fara gwyn. Mae’n grensiog ar y tu allan gyda rhosmari a rhannau trioglyd o fadarch a chaws ar y tu mewn. Perffaith!
Amser coginio: 20-30 munud - Type: RysetiauHeb wyauCigHawddPrydau un potDefnyddio baraNadolig
Dyma wledd gyflym a blasus iawn ar gyfer dydd gŵyl San Steffan sy’n defnyddio twrci dros ben, a gellir ei weini gydag unrhyw lysiau gwyrdd sydd dros ben. Gwnewch yn siŵr bod gennych chi ychydig o fara crystiog i'w dipio yn y saws hefyd!
Amser coginio: 30-45 munud - Type: RysetiauLlysieuolHawddFfrwythau dros ben
Mae'r bariau egni hyn yn wych i ddefnyddio unrhyw gnau neu ffrwythau sych sydd gennych yng nghefn eich cwpwrdd; cnau coco sych, darnau bach o siocled, neu unrhyw beth arall yr ydych ei awydd! Ar gyfer dewis figan hawdd, cyfnewidiwch y menyn a'r mêl am ledaeniad llysiau a surop masarn.
Amser coginio: 45-60 munud - Type: RysetiauLlysieuolHawddCoginio gyda’r plantDefnyddio bara
Os nad ydych erioed wedi rhoi cynnig ar y ffefryn brecinio hwn fel pryd sawrus, rydych chi'n colli allan. Mae hefyd yn ffordd wych o ddefnyddio hen fara – perffaith ar gyfer brecwast, cinio neu swper!
Amser coginio: 10 munud - Type: RysetiauHawddDefnyddio baraCoginio gyda’r plant
Yn berffaith fel cwrs cyntaf ysgafn cyn cinio Nadolig moethus, mae eog wedi’i gochi ar gael yn hawdd mewn pecynnau bach sy'n golygu y gallwch chi sicrhau nad ydych chi'n prynu mwy nag sydd ei angen arnoch chi.
Amser coginio: 10 munud