Skip page header and navigation

Tost tapenâd olewydd

Tost tapenâd olewydd

Mae'n llawer rhatach a symlach gwneud eich tapenâd eich hun ac yn wych ar gyfer gwneud bara dros ben yn rhywbeth mwy diddorol.

Mae angen prosesydd bwyd arnoch chi neu os nad oes gennych chi un, fe allech chi ddefnyddio pestl a morter neu ben rholbren a dysgl i falu'r olewydd. Byddai cyfuniadau tapenâd eraill fel tomato heulsych a chaws gafr hefyd yn gweithio'n dda.
Gan Caroline Marson
Yn gweini 24
Amser Paratoi/Coginio: 10 munud
Jar tapenâd olewydd agored wrth ymyl cyllell ar ddwy dafell o dost

Cynhwysion

Ar gyfer y tapenâd

100g o olewydd, gan dynnu’r cerrig ohonynt
2 ewin garlleg, wedi'i fathru
1 lemwn, croen yn unig
1 llwy fwrdd o gaprys, wedi'u rinsio a'u draenio (dewisol)
2 ansiofi

Ar gyfer y tost

4 tafell o fara dros ben
Mae bara wedi'i rewi yn gweithio'n dda hefyd. Gallech chi dostio'r bara yn syth o'r rhewgell
2 domato canolig, wedi'u torri'n fân
Pupur du
2 lwy fwrdd o olew olewydd

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Ar gyfer y tapenâd; rhowch yr holl gynhwysion tapenâd (olewydd, garlleg, croen lemwn, olew olewydd, ansiofi a chaprys opsiynol) mewn prosesydd bwyd bach a’i gymysgu tan ei fod bron yn llyfn a’u rhoi mewn dysgl fach.

  2. Ar gyfer y tost; brwsiwch bob ochr i’r bara ag olew olewydd a’i grilio neu ei dostio tan ei fod yn frown euraidd ac yna eu torri’n sgwariau bach neu betryalau, neu torrwch yn gylchoedd bach gan ddefnyddio torrwr crwn.

  3. Taenwch y tapenâd dros bob darn o fara a rhoi’r tomato wedi’i dorri’n fân neu olewydd wedi’i haneru ar ben y bara, ac yna ychwanegu blas gyda phupur du.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Jar gyda ffilm o olew olewydd
Amser
Hyd at 3 wythnos
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Ddim yn berthnasol

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.