Shakshuka selsig a ffa
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Ychwanegwch ychydig o olew i sgilet fawr a ffrio eich pupurau wedi’u rhewi tan eu bod yn feddal, wedyn ychwanegu eich garlleg a’ch jalapeños wedi’u torri (os ydych chi’n eu defnyddio) a’u ffrio am funud arall.
Nesaf, ychwanegwch eich tun o domatos bach a defnyddio cefn eich llwy i falu rhai o’r tomatos fel eu bod yn torri’n gyflymach a’u gadael i fudferwi ar wres canolig am tua 5 munud cyn ychwanegu eich tun o ffa pob a selsig a’ch sbeisys.
Cymysgwch y cyfan a’i adael i fudferwi ar wres isel am 10 munud arall, gan ei droi yn achlysurol.
Unwaith y bydd y saws wedi tewychu, gwnewch bedair ffynnon yn y badell a hollti wy i mewn i bob un a’u gorchuddio (gyda chaead neu ychydig o ffoil) tan fod y gwynnwy wedi coginio a’r melynwy’n dal yn feddal.
Ychwanegwch lond llaw o bersli wedi’i dorri a’i weini yng nghanol y bwrdd i bawb ei fwyta, gyda hufen sur a digon o fara.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.