Lasagne hadog coch
Lasagne hadog coch
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Rhowch y pysgod mewn padell ffrio ac arllwys y llaeth drostynt ac ychwanegu’r ddeilen llawryf, ac ychwanegu blas gyda phupur du a berwi’r llaeth yn ysgafn, cyn troi’r gwres i lawr, a photsiwch y pysgod am 5 munud. Tynnwch y pysgodyn o’r sosban gyda llwy a’u rhoi ar blât a’i fflochio’n ddarnau bach gyda fforc a’i roi i un ochr. Hidlwch y llaeth i jwg, gan daflu’r ddeilen llawryf.
I wneud i’r saws toddwch y menyn mewn sosban yna ychwanegu’ blawd a’i goginio am 2 funud, gan ei droi gyda llwy bren ac arllwys y llaeth yn raddol, ychydig ar y tro a’i droi’n barhaus i osgoi lympiau. Mudferwch y saws yn ysgafn, gan ei droi’n gyson am tua 2 funud tan ei fod wedi tewychu. Ychwanegwch y fflochiau pysgod i’r saws a’i gymysgu’n ysgafn fel nad yw’r pysgodyn yn torri’n ddarnau.
Cynheswch y ffwrn i 180°C/160°C Ffan/nwy 4. A rhoi’r india-corn hufennog, iogwrt naturiol a’r wy mewn dysgl a’u curo’n ysgafn gyda fforc tan ei fod wedi’i gyfuno ac ychwanegu blas gyda phupur du.
I gydosod gwasgarwch hanner y saws pysgod dros waelod dysgl pobi tua 20cm x 16cm a’i orchuddio gydag un haen o daflenni lasagne, gan eu torri i ffitio, yna rhowch hanner y cymysgedd india-corn a haen arall o lasagne ar ei ben. Ailadroddwch yr haenau, saws pysgod, taflenni lasagne, yna gorffen gyda haen o gymysgedd india-corn ar ei ben.
Rhowch y lasagne yn y ffwrn am 35 munud tan fod y topin yn euraidd.
Mae’n addas i’w rewi ar ôl ei goginio. Cofiwch ei ddadmer yn yr oergell a’i ailgynhesu tan ei fod yn chwilboeth drwyddo. Gellir storio unrhyw fwyd dros ben dan orchudd yn yr oergell am hyd at 48 awr a’i ailgynhesu’n drylwyr tan ei fod yn chwilboeth.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.