Gwastraff bwyd a newid hinsawdd
- Siopa bwyd
- Storio bwyd
- Arbed amser ac arian
Prynu’n rhydd, a defnyddio beth rydych yn ei brynu: eich mantra siopa bwyd newydd
Beth petawn ni’n dweud wrthych fod un peth syml y gallwch chi ei wneud pan rydych yn yr archfarchnad neu’n gwneud eich siopa ar lein a allai helpu arbed degau o filoedd o dunelli o fwyd bob blwyddyn?

Gadewch inni fod yn realistig: weithiau rydym mor brysur nes bod meddwl am sut i arbed bwyd gartref yn disgyn i waelod ein rhestr blaenoriaethau. Yn hytrach na cheisio gweddnewid eich arferion bwyd dros nos, dewch inni weithredu gyda’n gilydd fesul tamaid.

Pan fyddwch yn taflu rhywbeth i’r bin, nid bwyd yn unig sy’n mynd yn wastraff, ond yr holl adnoddau gwerthfawr a gafodd eu defnyddio i’w wneud. Ac mae gan bob un effaith ar newid hinsawdd.
Efallai yn fwy syfrdanol fyth, daw 70% o’r holl fwyd a gaiff ei daflu yn Deyrnas Unedig o’n cartrefi, sy’n golygu bod gan bob un ohonom ran hollbwysig i’w chwarae yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.

Croeso i’n cymuned! Rydyn ni yma i’ch helpu i archwilio ffyrdd syml o arbed bwyd, arbed arian ac achub ein planed.
