Chwilio Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Dyma gasgliad o tips ar sut gallwch chi a’ch teulu wneud i’ch bwyd fynd ymhellach yn ystod Ramadan.
Pan fyddwch yn taflu rhywbeth i’r bin, nid bwyd yn unig sy’n mynd yn wastraff, ond yr holl adnoddau gwerthfawr a gafodd eu defnyddio i’w wneud. Ac mae gan bob un effaith ar newid hinsawdd.
Efallai yn fwy syfrdanol fyth, daw 70% o’r holl fwyd a gaiff ei daflu yn Deyrnas Unedig o’n cartrefi, sy’n golygu bod gan bob un ohonom ran hollbwysig i’w chwarae yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.Mae ein canllaw defnyddiol yn cynnig tips ar gyfer arbed amser yn y gegin a’r archfarchnad, gan arbed arian ichi hefyd. Allwch chi fforddio peidio ei ddarllen?
- Type: Cynnwys cyffredinol
Gadewch inni fod yn realistig: weithiau rydym mor brysur nes bod meddwl am sut i arbed bwyd gartref yn disgyn i waelod ein rhestr blaenoriaethau. Yn hytrach na cheisio gweddnewid eich arferion bwyd dros nos, dewch inni weithredu gyda’n gilydd fesul tamaid.
- Type: Post blog
Beth petawn ni’n dweud wrthych fod un peth syml y gallwch chi ei wneud pan rydych yn yr archfarchnad neu’n gwneud eich siopa ar lein a allai helpu arbed degau o filoedd o dunelli o fwyd bob blwyddyn?