Calan Gaeaf – manteisio i’r eithaf ar eich pwmpen
Calan Gaeaf
Dyma dymor y bwganod wedi cyrraedd ac rydym wrthi’n brysur gasglu pwmpenni, afalau, danteithion blasus a bwydydd eraill tymhorol cynhesol. Yn anffodus, caiff 4.5 o filiynau o dunelli o fwyd da ei wastraffu bob blwyddyn o gartrefi’r Deyrnas Unedig, mae hynny’n ddigon i lenwi 38 miliwn o finiau olwynion!
Mae pwmpenni’n fwy na llusernau calan gaeaf tlws – maen nhw’n llawn fitaminau a mwynau a gellir eu defnyddio mewn seigiau melys a sawrus ill dau. Gallwch ddefnyddio eich holl bwmpen a manteisio i’r eithaf arni.
o bwmpenni a brynwyd fel addurniadau Calan Gaeaf sy’n debygol o beidio â chael eu bwyta.
o deuluoedd yn y Deyrnas Unedig yn taflu un bwmpen yr un!
Bwyd a Rysetiau
Mae’r broses o dyfu, gwneud, dosbarthu, storio a choginio ein bwyd yn defnyddio llawer o ynni, tanwydd a dŵr a’r broses hon sy’n cynhyrchu 30% o’r lefelau nwyon tŷ gwydr CO₂e y byd. Dewch inni newid hyn a gwneud rhywbeth da i’n planed ac i’n pocedi drwy greu bwyd blasus gyda’n pwmpenni a’i gynnwys fel rhan o’n dathliadau Calan Gaeaf blynyddol. Mae pwmpenni’n cynnwys llawer o fitaminau, mwynau a gwrthocsidyddion ac maen nhw’n faethlon iawn ac yn werth eu hachub rhag y bin.
Dysgwch sut gallwch chi achub eich pwmpenni rhag mynd i’r bin.