Skip page header and navigation

Seleri

Rhewi? Yes
Tymor Gorffennaf – Chwefror
Storio Yn yr oergell
Mae’n cynnwys calsiwm ac mae’n ffynhonnell dda o ffibr
Bwnsiad o seleri ffres

Mae seleri’n dod o’r un teulu â moron. Mae’n cynnwys llawer o ddŵr a llawer o fitaminau a mwnau yn ogystal â bod yn ffynhonnell dda o ffibr. Nid yw llawer o bobl yn sylweddoli bod modd bwyta’r dail hefyd, felly gellir bwyta’r llysieuyn cyfan – y dail, y coesynnau a’r craidd oll.

Sut i'w storio

Sut i storio seleri ffres

Y lle gorau i storio seleri yw yng ngwaelod yr oergell.

Rhewi seleri

Gellir rhewi seleri mewn bag neu gynhwysydd wedi’i selio am hyd at 3 mis.

Storio seleri wedi’i goginio

Storio mewn cynhwysydd aerglos yn yr oergell am hyd at 2 ddiwrnod.

Seleri – tips gwych

Sut i'w rewi a dadrewi

I’w rewi: Storiwch seleri mewn cynhwysydd aerglos yn y rhewgell, neu gallech ei ychwanegu at fag stoc llysiau yn y rhewgell ynghyd â winwns a moron fel paratoad ar gyfer stiw neu gawl.

I’w ddadrewi: Pan fyddwch yn tynnu bwyd neu ddiod o’r rhewgell, mae’n bwysig ei ddadrewi yn ddiogel. Peidiwch â’i ddadrewi ar dymheredd yr ystafell. Yn ddelfrydol, dylid ei ddadrewi’n gyfan gwbl yn yr oergell a’i ddefnyddio o fewn 24 awr. Neu, gallwch ddefnyddio’r microdon ar y modd dadrewi yn syth cyn coginio/aildwymo. 

 

Bwyta’r bwyd cyfan

Mae dail seleri’n llawn blas. Gallwch eu torri fel perlysiau i ychwanegu blas seleri, cymysgu’r dail ifanc mewn salad, neu eu hychwanegu at gawl, stoc, sylfaen pryd, neu sawsiau.

Bod yn wych gyda bwyd dros ben

Mae seleri dros ben yn fendigedig wedi’i dorri a’i ychwanegu at salad neu gyda dip. Gallwch hefyd ei dorri a’i goginio gyda winwns a moron fel sylfaen blasus ar gyfer cawl, stiw a saws pasta. 

Tips ar gyfer ei brynu

Os mai ar gyfer coginio’r ydych yn defnyddio seleri’n bennaf, ystyriwch gyfnewid seleri ffres am gymysgedd o foron, seleri a winwns o’r rhewgell (cymysgedd sylfaen yw’r enw a roddir ar hwn weithiau). Mae bwydydd wedi’u rhewi’n para am amser hir yn y rhewgell, gallwch ddefnyddio cymaint ag y mae ei angen arnoch, ac yn aml gallant fod yn opsiwn rhatach.

Dognau delfrydol 

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.

Rhoi gwerth ar fwy na phris eich Seleri

Daioni mewn bwyd

Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.

  • Mae’n cynnwys llawer o fitaminau a mwnau yn cynnwys potasiwm a chalsiwm sy’n bwysig i gadw’r galon yn iach.
  • Ffynhonnell dda o ffibr sy’n helpu i gynnal treuliad iach.
  • Ffynhonnell dda o fflafonoidau sy’n cael effaith gwrthlidiol a gwarchodol ar y system gardiofasgwlaidd.

     

Stori bwyd

Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.  

Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!  

Beth am roi cynnig ar y rysetiau blasus hyn i ddefnyddio Seleri

Arbedwch y llysiau hynny o waelod yr oergell a rhoi bywyd newydd iddynt yn y cyri dyfeisgar hwn sydd mor ysgafn ag y mae'n iach. Rydym ni wedi defnyddio past cyri Madras (i roi cic ychwanegol) - gallwch chi ddewis eich ffefryn. Rhowch gyffyrddiad dilys iddo â reis basmati hefyd.

Cyri llyseiol mewn dysgl

Mae'r stiw swmpus hwn yn flasus, yn llenwi ac yn defnyddio'ch llysiau dros ben. Beth sydd ddim i'w hoffi?

a thick stew of mixed soft vegetables including courgette and onion topped with fresh thyme

Mae crwst pwff yn trawsnewid llysiau dros ben diflas yn bryd o fwyd newydd sbon!

Pastai lysiau grystiog wedi’i thorri’n dafelli a’i haenu â chaws a llysiau gwyrdd