Skip page header and navigation

Quesadilla

Quesadilla

Trawsnewidiwch eich bwyd dros ben gyda'r rysáit quesadilla. Byddant yn gwneud cinio, swper neu fyrbryd gwych, a dim ond munudau y byddant yn eu cymryd i'w rhoi at ei gilydd. Mae'r rysáit yn defnyddio darnau sbâr o lysiau o'r oergell ond mae unrhyw beth iawn, byddwch yn greadigol!
Gan Tony Singh
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 20-30 munud
Platiaid blasus o quesadillas llawn yn cynnwys saws cawslyd cyfoethog a detholiad o lysiau

Cynhwysion

Llysiau dros ben fel moron, maip, seleriac, pupur coch a melyn (wedi'u deisio)
250g o gaws, defnyddiwch beth bynnag sydd gennych yn yr oergell
2 tsili coch, hadau wedi'u tynnu
6 ewin o arlleg, wedi'i fathru, neu 2 lwy de o biwrî garlleg
Darn 2 fodfedd o sinsir, wedi'i blicio a'i dorri'n fân
1 winwnsyn coch canolig, wedi'i blicio a'i sleisio
1½ llwy de o hadau cwmin
1 llwy de cwmin
1 llwy de o paprica
6 shibwns, wedi'u sleisio'n fân
50g coriander ffres, wedi'i dorri'n fras
Sudd a chroen un leim
3 llwy fwrdd o sôs coch
Tortilas
Olew olewydd i rostio, olew llysiau i ffrio
Halen i ychwanegu blas

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cynheswch y ffwrn i 180°C/160°C ffan/350°F.

  2. Mewn dysgl, ychwanegwch y gwreiddlysiau gyda’r pupurau, y tsili, yr hadau cwmin a phaprica a phinsiad o halen gyda’r olew olewydd a’u rhoi ar glawr pobi a’u rhostio am 20 munud.

  3. Yn y cyfamser, cynheswch sblash o olew mewn padell ffrio ar wres canolig. Pan fydd yn dechrau creu mwg, ychwanegwch y winwns a’u ffrio am 2 funud. Wrth ei droi, ychwanegu’r garlleg, y tsili, y sinsir a’r cwmin a’i goginio am 5 munud wrth droi. Os bydd yn dechrau glynu, ychwanegwch 3 llwy fwrdd o ddŵr a pharhau i goginio am weddill y 5 munud.

  4. Tynnwch oddi ar y gwres a’i roi mewn dysgl a’i oeri am 5 munud. Ychwanegwch y sôs coch, coriander, sudd leim, shibwns a chaws a’u cymysgu’n ysgafn.

  5. Unwaith y bydd y gwreiddlysiau wedi coginio, dylid eu tynnu o’r ffwrn a’u gadael i oeri am 5 munud. Cymysgwch y gwreiddlysiau gyda’r gymysgedd caws a’i flasu. Addaswch gyda halen a phupur os oes angen.

  6. Rhowch tortila ar yr arwyneb gwaith a thaenwch ⅛ o’r cymysgedd drosto.

  7. Plygwch hanner arall y tortila fel bod gennych hanner cylch. Ailadroddwch gyda’r holl ddarnau tortila eraill.

  8. Cynheswch badell ffrio dros wres canolig gyda sblash o olew llysiau ynddo a rhoi eich tortila wedi’i lenwi yn y badell (neu ddau os oes gennych le) a’i goginio am 2 i 3 munud cyn ei droi drosodd yn ofalus a’i ffrio am 2 i 3 munud arall. Dylai’r ddwy ochr fod yn hyfryd a brown - ac ychydig yn grimp! Gweinwch gyda salad o’ch dewis a gwacamole a salsa.

  9. Awgrym: Os oes unrhyw gymysgedd ar ôl bydd yn cadw yn yr oergell am ddau ddiwrnod i’w ddefnyddio eto, neu mae’n wych ar datws pob neu mewn omled. Gall y quesadillas hefyd gael eu cadw yn yr oergell hyd at ddiwrnod ymlaen llaw, felly mae’n fwyd parti gwych i’w gael yn barod!

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 24 awr
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.