Pwdin sbwng wedi'i bobi
Pwdin sbwng wedi'i bobi
Gellir rhoi blas ar y sbwng gyda chynhwysion o’r cwpwrdd bwyd fel rhinflas almon neu fanila, darnau bach o siocled neu sinsir wedi'i falu, a gall yr haen waelod fod yn jam, marmaled, surop melyn, ffrwythau wedi'u stiwio neu'n ffrwythau tun.
Cynhwysion
Mocha: Ychwanegwch 1 llwy bwdin o goco ac 1 llwy de o goffi
Sitrws: Ychwanegwch groen oren neu lemwn wedi'i gratio
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Cynheswch y ffwrn i 190°C.
Irwch ddysgl sy’n addas ar gyfer y ffwrn a rhoi haen o’ch dewis ar waelod y ddysgl.
Hufennwch y marjarîn a’r siwgr gyda’i gilydd tan ei fod yn olau, yn ysgafn ac yn ffluwchog.
Ychwanegwch yr wy a’r llaeth ychydig ar y tro a’i guro tan ei fod wedi’i amsugno.
Hidlwch y blawd a’r halen i mewn a’i blygu’n ysgafn tan ei fod wedi’i gymysgu.
Rhowch y cymysgedd sbwng mewn haen wastad dros yr haen waelod a’i bobi tan fod y sbwng yn frown euraidd ac yn codi’n ôl i’w siâp pan gaiff ei wasgu’n ysgafn (am tua 40 munud).
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.