Pwdin bara menyn sawrus
Pwdin bara menyn sawrus
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Torrwch y genhinen yn gylchoedd 2cm a’i rhoi mewn sosban o ddŵr berwedig a blansio’r genhinen am 3 munud i feddalu, yna ei draenio a’i rhoi i un ochr.
Toddwch ddarn o fenyn mewn dysgl gaserol ac yna ychwanegu’r winwnsyn wedi’i sleisio a’i ffrio am 5 munud dros wres canolig. Ar ôl i’r winwnsyn feddalu a dechrau carameleiddio, ychwanegwch y garlleg a’r teim i’r badell gyda phinsiad o halen a pharhau i ffrio am 3 munud arall. Ychwanegwch y madarch a’r cennin i’r badell a’u tynnu oddi ar y gwres.
Mewn jwg mawr cyfunwch y llaeth, yr wyau a’r nytmeg a’u curo’n ysgafn ac yna torri neu rwygo’r bara yn dalpiau 4cm.
Cyfunwch hanner y bara gyda’r cymysgedd winwns a chennin yn y badell ac yna rhoi hanner y caws a’r ham yn gyfartal o amgylch y badell. Rhowch y bara, y caws a’r ham sy’n weddill dros y top ac arllwys y cymysgedd wy drosto.
Gadewch i’r bara socian am o leiaf 30 munud cyn ei goginio. Tra bod y bara yn socian cynheswch y ffwrn i 190°C/ Marc Nwy 5 a phobi’r pwdin bara menyn am 25 - 30 munud tan ei fod yn euraidd a chrimp.
Gweinwch gyda salad gwyrdd neu lysiau tymhorol.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.