Mousaka corbys, planhigyn wy a thomato
Mousaka corbys, planhigyn wy a thomato
Beth am ei weini gyda bara garlleg a salad gwyrdd crensiog.
Cynhwysion
Ar gyfer y saws caws
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Cynheswch y ffwrn i 200°C (400°F) marc 6. Bydd angen i chi gynhesu 2 lwy fwrdd o olew olewydd mewn padell ffrio fawr ac yna ychwanegu’r winwns, y garlleg a’r pupur a’u coginio’n ysgafn am tua 10 munud neu tan eu bod yn frown euraidd.
Ychwanegwch y corbys, y perlysiau (gan gynnwys y ddeilen llawryf), y piwrî tomato a’i ysgwyd o amgylch y badell am ychydig o funudau. Ychwanegwch y tomatos tun wedi’u torri a’r stoc tan maen nhw’n berwi ac yna lleihau’r gwres i fudferwi a thynnu unrhyw lysnafedd o’r corbys sy’n dod i’r wyneb. Mudferwch am tua 50 - 60 munud neu nes bod y corbys wedi coginio, ac yna tynnu’r ddeilen llawryf.
Yn y cyfamser, cynheswch y gril ymlaen llaw a brwsio’r planhigyn wy gyda gweddill yr olew olewydd ac ychwanegu blas. Yna choginio’r planhigyn wy mewn sypiau nes ei fod yn frau, yn feddal ac yn frown euraidd, tua 10 munud ar bob ochr.
I wneud y saws caws:
Curwch yr wyau a’r iogwrt gyda’i gilydd gyda’r caws colfran a chaws caled wedi’i gratio.I roi’r Mousaka at ei gilydd, rhowch hanner y cymysgedd corbys mewn dysgl fawr tua 25 x 33cm a’i orchuddio gyda hanner y dafell o blanhigyn wy ac yna ychwanegu hanner y cymysgedd saws caws ac yna ailadrodd y camau gyda gweddill y cymysgedd corbys, planhigyn wy a saws caws.
Coginiwch yn y ffwrn am tua 30-40 munud neu tan ei fod yn euraidd ar ei ben ac yn chwilboeth.
I rewi: Cwblhewch hyd at ddiwedd cam 5, yna oeri, gorchuddio, labelu a rhewi’r ddysgl sydd wedi’i chydosod am hyd at 3 mis.
I’w ddefnyddio: Dadrewi’r pryd dros nos yn yr oergell, Ail-gynheswch yn y ffwrn ar 200C (400F) marc 6 a’i goginio fel yr uchod (cam 6).
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.