Gwledd o ffacbys a madarch mewn crochan araf
Gwledd o ffacbys a madarch mewn crochan araf
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Cynheswch yr olew olewydd mewn padell ac yna ffrio’r winwns, y garlleg a’r sbeisys yn ysgafn am ychydig funudau tan fod y winwns wedi meddalu.
Cymysgwch eich ciwb stoc mewn 600ml o ddŵr cynnes tan ei fod wedi hydoddi.
Ychwanegwch eich holl gynhwysion, gan gynnwys llysiau wedi’u torri a winwns wedi’u ffrio, i’r crochan araf ac arllwyso’r stoc a’r can o domatos wedi’u torri i mewn.
Coginiwch yn uchel am bedair awr neu’n isel am chwech a’i weini gyda shibwns, iogwrt a bara crystiog.
Cofiwch rewi unrhyw ddognau nad ydych chi’n eu bwyta y tro hwn i’w harbed rhag mynd i’r bin. Dyma ffordd wych o arbed amser ar gyfer pryd o fwyd syml ar gyfer diwrnod arall pan fyddwch efallai’n brysur.
Dylech ddadrewi dognau wedi’u rhewi yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr, neu gallech eu dadrewi yn y microdon ar ‘defrost’ yn syth cyn eu defnyddio.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.