Skip page header and navigation

Grawnwin

Rhewi? Yes
Tymor O ddiwedd yr haf hyd dechrau’r hydref
Storio Yn yr oergell
Ffynhonnell dda o fitamin C
Bwnsiad o rawnwin gwyrdd ar gefndir gwyn

Ffrwyth poblogaidd, ac mae llawer o wahanol fathau ar gael, yn cynnwys gwyrdd, coch a du. Caiff grawnwin eu defnyddio mewn prydau melys a sawrus ill dau, ac maen nhw’n llawn daioni, yn cynnwys ffibr a photasiwm. 

Sut i'w storio

Sut i storio grawnwin ffres

Bydd eich grawnwin yn para’n hirach os cânt eu cadw yn eu pecyn gwreiddiol yn yr oergell.

Rhewi grawnwin

Gellir rhewi grawnwin mewn bag neu gynhwysydd wedi’i selio am hyd at 3 mis.

Grawnwin – tips gwych

Sut i'w rewi a dadrewi

I’w rhewi: Golchwch nhw a’u rhewi fesul un i’w defnyddio fel ciwbiau rhew blasus neu i’w blendio mewn smwddis.

Sylwer: ni ddylid rhoi grawnwin wedi rhewi i blant, oherwydd y perygl o dagu.

I’w ddadrewi: Does dim angen eu dadrewi – defnyddiwch nhw’n syth o’r rhewgell.

 

Bod yn wych gyda bwyd dros ben

Defnyddiwch rawnwin dros ben, neu sydd wedi crebachu neu fynd yn feddal, mewn smwddis. Mae grawnwin wedi’u rhostio (ychwanegwch ychydig o gwmin) yn flasus mewn salad! 

Tips ar gyfer ei brynu

Ystyriwch brynu grawnwin rhydd, i’ch helpu i brynu dim ond yr hyn a ddefnyddiwch. Bydd hyn yn sicrhau bod mwy o’ch bwyd yn debygol o gael ei fwyta a’i achub rhag mynd i’r bin.

Dognau delfrydol 

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.

Rhoi gwerth ar fwy na phris eich Grawnwin

Daioni mewn bwyd

Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.

  • Mae’n ffynhonnell wych o fitamin C sy’n helpu i gynnal croen, pibellau gwaed, esgyrn a chartilag iach. 
  • Mae grawnwin hefyd yn cynnwys potasiwm, mwyn sy’n helpu cyhyr y galon weithio’n iawn.
  • Mae un dogn o rawnwin yn cyfrif fel un o’ch 5 y dydd.

     

Stori bwyd

Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.  

Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!  

Beth am roi cynnig ar y rysetiau blasus hyn i ddefnyddio Grawnwin

Mae saladau grawn yn eich llenwi ac yn faethlon, ac yn gweithio'n dda iawn gyda ffrwythau ffres, sy'n ychwanegu lliw, gwead a blas.

Powlen fawr o gwinoa wedi’i gyfuno â thafelli o afal suddlon

Gwnewch argraff ar eich ffrindiau gyda'r pwdin gwych sy’n haws nag y mae'n edrych i’w wneud gan y cogydd gorau Tom Kitchin.

Pwdin ffrwythau coch mewn sudd