Cyri llysiau Thai
Cyri llysiau Thai
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
I wneud y past cyri Thai, cymysgwch y sinsir, y garlleg, y gwellt lemwn a’r tsili mewn prosesydd bwyd tan iddo ddod yn bast garw.
Ar gyfer y cyri llysiau Thai: Cynheswch yr olew mewn padell a ffrio’r winwnsyn yn ysgafn am 2 funud, yna ychwanegu’r past cyri Thai a’u coginio am 2 funud arall; ychwanegwch y llysiau a’r llaeth cnau coco a’u mudferwi am 15-20 munud (gadewch y llysiau sydd ond yn cymryd ychydig o amser i goginio ac ychwanegu’r rhain ar y diwedd).
Tra bod y cyri yn mudferwi, coginiwch y reis persawrus Thai: Rhowch y reis mewn padell fawr sydd â chaead tynn ac ychwanegu 375ml o ddŵr oer, y menyn a’r halen tan ei fod yn berwi, a throi’r gwres i lawr i fudferwi; coginiwch dros wres isel, wedi’i orchuddio, am 20 munud neu tan fod y reis wedi amsugno’r holl hylif (ychwanegwch ychydig mwy o ddŵr os nad yw’r reis yn frau a bod yr holl hylif wedi’i amsugno).
I weini, rhowch sudd lemwn neu leim dros y cyri a gweinwch y cyfan gyda reis Thai persawrus.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.