Skip page header and navigation

Ciwcymbr

Rhewi? No
Tymor Ebrill-Hydref
Storio Yn yr oergell
Ffynhonnell wych o fitamin K
Hanner ciwcymbr wedi’i sleisio’n rhannol

Dyma fwyd poblogaidd yn y Deyrnas Unedig; mae ciwcymbr yn llawn microfaetholion ac yn gynhwysyn sylfaenol mewn salad a brechdanau. Mae ciwcymbrau yn rhan o’r un teulu â courgette, pwmpen a melon dŵr.

 

Sut i'w storio

Sut i storio ciwcymbr ffres

Storiwch giwcymbr yn ei becyn gwreiddiol yn yr oergell.

Ni allwch rewi ciwcymbr

Nid yw ciwcymbr yn addas i’w rewi. Nid yw bwydydd gyda chynnwys dŵr uchel, fel letys a chiwcymbr, yn rhewi’n dda.

Ciwcymbr – tips gwych

Bwyta’r bwyd cyfan

Does dim angen plicio ciwcymbr na thynnu’r hadau. Dim ond ei olchi cyn ei ddefnyddio.

Bod yn wych gyda bwyd dros ben

Gallwch biclo ciwcymbr dros ben mewn dim ond 15 munud. Cymysgwch rubanau neu sleisys ohono gyda mesurau cyfartal o siwgr mân a finegr gwin gwyn ynghyd â’ch hoff berlysiau (mae dil yn arbennig o dda) neu sbeisys. Mae hwn yn flasus gyda physgod neu ar gyfer brechdanau.

Tips ar gyfer ei brynu

Prynwch becyn o’r maint iawn ar gyfer eich anghenion. Os nad ydych, neu na fyddwch, yn defnyddio ciwcymbr o faint safonol mewn pryd, rhowch gynnig ar un llai (gelwir y rhain yn giwcymbr ‘midi’ weithiau) – os oes rhai ar gael.

Dognau delfrydol 

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.

Rhoi gwerth ar fwy na phris eich Ciwcymbr

Daioni mewn bwyd

Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.

  • Ffynhonnell o fitamin K, y mae’r corff ei angen ar gyfer ceulo gwaed ac mae’n helpu briwiau i wella.
  • Mae ciwcymbr yn cynnwys nifer o fwnau yn cynnwys potasiwm, sy’n helpu cyhyr y galon weithio’n iawn, a magnesiwm sy’n helpu i droi’r bwyd a fwytawn yn egni.
  • Mae cynnwys dŵr uchel mewn ciwcymbrau felly maen nhw’n helpu i hydradu’r corff.

     

Stori bwyd

Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.  

Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!  

Beth am roi cynnig ar y rysetiau blasus hyn i ddefnyddio Ciwcymbr

Os oes gennych chi lysieuwyr yn dod i'ch parti, byddan nhw wrth eu bodd â'r rhain; am fyrbryd mwy sylweddol gellir eu gweini hefyd mewn poced pita cynnes gyda saws tsili a salad.

Darnau o ffalaffel euraidd gyda phowlen o dip ciwcymbr ac iogwrt llyfn