Mae cennin yn ddewis poblogaidd yn y gegin, a gellir eu defnyddio yn lle winwns os bydd arnoch angen defnyddio rhai sydd gennych dros ben. Maen nhw’n rhan o’r teulu aliwm ynghyd â winwns a garlleg, ac maen nhw’n llawn maetholion.
Sut i'w storio
Sut i storio cennin ffres
Cadwch eich cennin yn yr oergell i’w cadw’n ffres.
Rhewi cennin
Gellir rhewi cennin mewn bag neu gynhwysydd wedi’i selio am hyd at 3 mis.
Storio cennin wedi’i goginio
Storio mewn cynhwysydd aerglos yn yr oergell am hyd at 2 ddiwrnod.
Cennin – tips gwych
Sut i'w rewi a dadrewi
I’w rhewi: Gellir rhewi cennin! Y cwbl y mae angen ichi ei wneud yw eu rhewi ar glawr neu fwrdd torri, cyn eu rhoi mewn cynhwysydd wedi’i selio.
I’w dadrewi: Pan fyddwch yn tynnu bwyd neu ddiod o’r rhewgell, mae’n bwysig ei ddadrewi yn ddiogel. Peidiwch â’i ddadrewi ar dymheredd yr ystafell.
Yn ddelfrydol, dylid ei ddadrewi’n gyfan gwbl yn yr oergell a’i ddefnyddio o fewn 24 awr. Neu, gallwch ddefnyddio’r microdon ar y modd dadrewi yn syth cyn coginio/aildwymo.
Bwyta’r bwyd cyfan
Defnyddiwch bennau gwyrdd eich cennin yn yr un modd ag yr ydych yn defnyddio’r rhannau gwyn. Dim ond ichi eu golchi’n drylwyr.
Bod yn wych gyda bwyd dros ben
Cennin dros ben – ffres
Mae cennin dros ben yn ychwanegiad gwych i gawl llysiau neu saws caws.
Cennin dros ben – wedi’i goginio
Gallwch ychwanegu cennin wedi’u coginio at datws stwnsh neu eu defnyddio ar ben pastai’r bwthyn.
Tips ar gyfer ei brynu
Ystyriwch brynu cennin rhydd, i’ch helpu i brynu dim ond yr hyn a ddefnyddiwch. Bydd hyn yn sicrhau bod mwy o’ch bwyd yn debygol o gael ei fwyta a’i achub rhag mynd i’r bin.
Ystyriwch gyfnewid cennin ffres am gennin wedi’u rhewi. Mae bwydydd wedi’u rhewi’n para am amser hir yn y rhewgell, gallwch ddefnyddio cymaint ag y mae ei angen arnoch, ac yn aml gallant fod yn opsiwn rhatach.
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.
Rhoi gwerth ar fwy na phris eich Cennin
Daioni mewn bwyd
Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.
- Ffynhonnell ragorol o fitamin A sy’n helpu inni weld mewn golau gwan.
- Yn cynnwys lefelau uchel o fflafonoidau sy’n gyfansoddion llawn gwrthocsidyddion. Mae’r rhain yn helpu i’n hamddiffyn yn erbyn heintiau.
- Mae cennin hefyd yn llawn mwnau fel calsiwm. Mae hyn yn ein helpu i dyfu esgyrn cryf ac iach.
Stori bwyd
Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.
Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!
Beth am roi cynnig ar y rysetiau blasus hyn i ddefnyddio Cennin
Lluniwyd y rysáit cawl clasurol gan ein partner, Chefs @ School, i gael disgyblion i feddwl am fwyd a sut i'w arbed rhag mynd i’r bin. A fyddech chi'n rhoi cynnig arni gyda'ch rhai bach?
Os oes gennych chi datws wedi'u coginio dros ben i'w defnyddio, o'r oergell neu'r rhewgell, beth am roi cynnig ar y rysáit flasus a syml hon gan Blas y Tir.
Mae crwst pwff yn trawsnewid llysiau dros ben diflas yn bryd o fwyd newydd sbon!