Mae brocoli wedi dod yn ffefryn rheolaidd yng nghartrefi’r Deyrnas Unedig ac mae ar gael mewn ambell i wahanol fath, yn cynnwys brocoli hirgoes. Gan mai aelod o’r teulu brassica yw brocoli, mae’n perthyn i fresych a blodfresych. Gallwch ei stemio, ei rostio a’i ychwanegu at eich tro-ffrio.
Sut i'w storio
Sut i storio brocoli ffres
Dylid storio brocoli yn yr oergell i’w gadw ar ei orau.
Rhewi brocoli
Gellir rhewi brocoli mewn bag neu gynhwysydd wedi’i selio am hyd at 3 mis.
Storio brocoli wedi’i goginio
Storio mewn cynhwysydd aerglos yn yr oergell am hyd at 2 ddiwrnod.
Brocoli – tips gwych
Sut i'w rewi a dadrewi
I’w rewi: Torrwch eich brocoli a’i flansio am dri munud cyn ei rewi i gadw’r blas.
I’w dadrewi: Pan fyddwch yn tynnu bwyd neu ddiod o’r rhewgell, mae’n bwysig ei ddadrewi yn ddiogel. Peidiwch â’u dadrewi ar dymheredd ystafell. Yn ddelfrydol, dylech eu dadrewi’n gyfan gwbl yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr. Neu, gallwch ddefnyddio’r microdon ar y modd dadrewi yn syth cyn ei goginio.
Bwyta’r bwyd cyfan
Peidiwch â thaflu coesyn y brocoli, mae’n hollol iawn i’w fwyta ac yn bwysicach fyth, mae’n flasus! Sleisiwch y coesyn a’i goginio gyda’r blodigion, i ychwanegu crensh i’ch tro-ffrio, neu gallwch ei weini’n amrwd mewn salad.
Bod yn wych gyda bwyd dros ben
Brocoli ffres
Defnyddiwch frocoli amrwd dros ben yn eich blodfresych mewn saws caws – mae blodigion gwyrdd yn ychwanegu lliw a difyrrwch i’r pryd bwyd hwn.
Brocoli wedi’i goginio
Gellir blendio brocoli wedi’i goginio gyda llaeth a’i ddefnyddio fel saws hufennog ar bysgod neu gyw iâr.
Tips ar gyfer ei brynu
Ystyriwch gyfnewid frocoli ffres am frocoli wedi’i rewi. Mae bwydydd wedi’u rhewi’n para am amser hir yn y rhewgell, gallwch ddefnyddio cymaint ag y mae ei angen arnoch, ac yn aml gallant fod yn opsiwn rhatach.
Wrth ei brynu’n ffres, prynwch ef yn rhydd a heb ei lapio pan fo’n bosibl, i leihau eich ôl-troed (effaith ar ein planed).
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.
Rhoi gwerth ar fwy na phris eich Brocoli
Daioni mewn bwyd
Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.
- Mae brocoli’n cynnwys llawer o fitamin C, sy’n helpu i warchod celloedd a’u cadw’n iach gan gynnal croen, pibellau gwaed, esgyrn a chartilagau iach.
- Mae hefyd yn ffynhonnell fitamin K – grŵp o fitaminau y mae eu hangen ar y corff i geulo gwaed a helpu anafiadau i wella.
- Mae brocoli hefyd yn cynnwys asid ffolig sy’n helpu’r corff ffurfio celloedd coch y gwaed yn iach.
Stori bwyd
Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.
Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!
Beth am roi cynnig ar y rysetiau blasus hyn i ddefnyddio Brocoli
Mae crwst pwff yn trawsnewid llysiau dros ben diflas yn bryd o fwyd newydd sbon!
Arbedwch y llysiau hynny o waelod yr oergell a rhoi bywyd newydd iddynt yn y cyri dyfeisgar hwn sydd mor ysgafn ag y mae'n iach. Rydym ni wedi defnyddio past cyri Madras (i roi cic ychwanegol) - gallwch chi ddewis eich ffefryn. Rhowch gyffyrddiad dilys iddo â reis basmati hefyd.
Rysáit gwych y gellir ei gwneud gydag unrhyw lysiau dros ben.