Skip page header and navigation

Afalau

Rhewi? Yes
Tymor Medi-Chwefror
Storio Yn yr oergell
Ffynhonnell wych o fitamin C a beta-caroten
pentwr bach o afalau cochion

Dyma un o’n hoff ffrwythau arferol, ac mae llawer o amrywiaethau’n cael eu tyfu yn y Deyrnas Unedig. Mae afalau’n ffynhonnell dda o fitamin A a fitamin C, ac maent wedi’u rhannu’n ddau gategori: afalau bwyta ac afalau coginio. Gellir defnyddio afalau coginio i wneud pob math o bwdinau, fel pastai, crymbl neu eu pobi’n gyfan wedi’u stwffio â rhesins a sinamon.

Sut i'w storio

Sut i storio afalau ffres

Cadwch eich afalau yn yr oergell i sicrhau ansawdd a’u cadw’n ffres. Fe wnân nhw gadw’n hirach na phe byddech yn eu cadw allan mewn powlen ffrwythau.

Rhewi afalau

Gellir rhewi afalau mewn bag neu gynhwysydd wedi’i selio am hyd at 3 mis.

Storio afalau wedi’u coginio

Storio mewn cynhwysydd aerdyn yn yr oergell am hyd at 2 ddiwrnod.

Afalau – tips gwych

Sut i'w rewi a dadrewi

I’w rhewi: Gellir rhewi afalau fel sleisys ar ôl eu coginio’n sydyn mewn dŵr berw. Dylech eu rhewi fel un haen, yna’u pacio mewn bagiau ar ôl iddyn nhw rewi. Gallwch ddefnyddio’r afalau wedi’u rhewi i wneud teisen afalau neu saws afalau.

I’w dadrewi: pan fyddwch yn tynnu bwyd neu ddiod o’r rhewgell, mae’n bwysig ei ddadrewi yn ddiogel. Peidiwch â’i ddadrewi ar dymheredd ystafell. 

 

Bwyta’r bwyd cyfan

Does dim angen plicio afalau. Dim ond eu golchi cyn eu defnyddio.

Bod yn wych gyda bwyd dros ben

Gellir defnyddio afalau dros ben sydd wedi crebachu neu fynd yn feddal i wneud smwddis. Maen nhw’n wych hefyd mewn picl, siytni neu hyd yn oed wedi’u cynnwys mewn cyri. Gallwch stiwio hen afalau i wneud saws afal neu eu defnyddio mewn crymbl.

Tips ar gyfer ei brynu

Ystyriwch brynu afalau rhydd, i’ch helpu i brynu dim ond yr hyn y mae ei angen arnoch. Bydd hyn yn sicrhau bod mwy o’ch bwyd yn debygol o gael ei fwyta a’i achub rhag mynd i’r bin.

Mae’n bosibl prynu sleisys afalau wedi’u rhewi, sy’n ddelfrydol i’w defnyddio mewn pasteiod neu bwdinau. Mae bwydydd wedi’u rhewi’n para am amser hir yn y rhewgell, gallwch ddefnyddio cymaint ag y mae ei angen arnoch, ac yn aml gallant fod yn opsiwn rhatach. Mae llenwad neu dopin pastai afal hefyd yn dod mewn tuniau.

 

Dognau delfrydol 

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.

Rhoi gwerth ar fwy na phris eich Afalau

Daioni mewn bwyd

Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.

  • Ffynhonnell wych o fitamin A sy’n helpu inni weld mewn golau gwan.
  • Mae’n ffynhonnell wych o fitamin C hefyd, sy’n helpu i warchod ein celloedd a’u cadw’n iach. 
  • Ffynhonnell dda o ffibr, sy’n helpu gyda threuliad.

     

Stori bwyd

Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.  

Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!  

Beth am roi cynnig ar y rysetiau blasus hyn i ddefnyddio Afalau

Pwdin syml ond blasus ar gyfer defnyddio'r gormodedd o ffrwythau'r hydref.

Dysgl wen o grymbl afalau a mwyar gyda thafelli afal ar y naill ochr

Defnyddiwch unrhyw amrywiaeth o afalau pwdin yn y rysáit flasus hon, sy'n cynnwys saws taffi cyflym a chrymbl crimp wedi'i wneud o doesen dros ben ar ei ben.

a dish of apple crumble with a portion on a spoon

Mae saladau grawn yn eich llenwi ac yn faethlon, ac yn gweithio'n dda iawn gyda ffrwythau ffres, sy'n ychwanegu lliw, gwead a blas.

Powlen fawr o gwinoa wedi’i gyfuno â thafelli o afal suddlon