Pei pysgod Masala
Pei pysgod Masala
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Ffriwch y cennin gyda 2 lwy fwrdd o olew hadau rêp mewn sosban fawr ar wres isel i ganolig tan eu bod wedi meddalu.
Ychwanegwch y dail cyri, y tsili gwyrdd, yr hadau mwstard a’r hadau ffenigrig a’i goginio am 5 munud.
Ychwanegwch y sbeisys (ac eithrio’r saffrwm) a’i goginio am ychydig funudau.
Ychwanegwch y garlleg a’r past sinsir a’i goginio am 2 funud arall.
Ychwanegwch y passata a’r llaeth cnau coco a’u cymysgu’n dda.
Ychwanegwch y ffiled pysgod wedi’u rhewi ac ychwanegu ychydig o ddŵr os oes angen i’w orchuddio a’i fudferwi ac yna lleihau’r gwres, tynnu’r caead a’i goginio tan fod y saws wedi lleihau i gysondeb trwchus. (Gall rhywfaint o flawd corn sy’n cael ei hidlo’n raddol i mewn a’i gymysgu drwyddo helpu i dewychu’r saws gan nad ydych am golli’r cyfan yn y broses leihau).
Ychwanegwch y sbigoglys a’i goginio tan ei fod wedi dadmer a chymysgu drwyddo.
Cymysgwch y coriander i mewn i’r gymysgedd.
Ychwanegwch flas gyda halen.
Rhannwch y ffiledi pysgod gyda llwy yn dalpiau.
Trosglwyddwch i ddysgl sy’n addas ar gyfer y ffwrn a’u adael i oeri.
Ar gyfer y tatws, berwch mewn dŵr hallt am 20 munud, yna eu draenio a’u stwnsio tan eu bod yn llyfn gyda llawer o fenyn a ¼ llwy de ychwanegol o dyrmerig a phinsiad bach o saffrwm. Helo stwnsh melyn!
Rhowch y stwnsh melyn llachar ar ben y pysgodyn masala a’u tolcio gyda llwy i greu siâp ‘cen pysgod’.
Coginiwch mewn ffwrn wedi’i gynhesu ymlaen llaw ar 180°C ffan am 30 munud ac yna newid y gosodiad i gril uchel i frownio’r top ar gyfer yr edrychiad ffwrn glai hwnnw.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.